Sioe Bwlch-Llan

Hanes sioe Bwlch-llan 2024

gan Meleri Morgan

Mae dydd Sadwrn cyntaf mis Medi yn ddyddiad blaenllaw yn nyddiaduron trigolion Bwlch-llan gan fod y Sioe flynyddol yn cael ei chynnal.

Mae’r sioe yn dyddio nôl degawdau a’r traddodiad yn parhau hyd heddiw.

Cynhelir y sioe yn festri y Capel.

Roedd llond y festri o flodau, cynnyrch gardd, gwaith llaw a choginio.

Y llywydd eleni oedd Jill Bradley, un sydd wedi cyfrannu i’r sioe ers blynyddoedd boed yn cystadlu neu stiwardio.

Croesawyd pawb gan y Cadeirydd Meirian Morgan a diolchodd Meira Lloyd i bawb am eu gwaith.

Fe aeth y wobr am y nifer ucha’ o gynigion i Marian Hamer gyda 45 o gynigion gwahanol.

Gwobr ydy hon er cof am Polly Morgan un a oedd mor weithgar gyda’r sioe.

Cofiwch am y dyddiad blwyddyn nesa, mi fyddai’n braf eich gweld ym Mwlch-Llan.

Yn y lluniau gwelwch ennillwyr bob adran.

Dweud eich dweud