Rhodd ariannol i elusen HAHAV gan Gymdeithas Aredig Ceredigion

Cefnogi elusen lleol yn dilyn cynnal Cystadleuaeth Aredig Cymru a Chystadleuaeth Aredig Ceredigion

gan Alex Hollick

Mae Cymdeithas Aredig a Phlygu Gogledd Ceredigion wedi bod yn cynnal cystadlaethau lleol ers degawdau bellach, a phob nawr ac yn y man, maent yn cydweithio gyda’r gymdeithas arall yn y Sir i gynnal Cystadleuaeth Aredig Cymru. Ym mis Medi y llynedd cynhaliwyd y gystadleuaeth yn Llanon a chroesawyd cystadleuwyr o ar draws Cymru a Phrydain. Efallai gwnaethoch chi sylwi ar y digwyddiad wrth basio ar y brif ffordd tuag at Aberystwyth neu i Aberaeron.

Yn dilyn hyn, cynhaliwyd y gystadleuaeth sirol ym Mhenycaerau, Rhosygarth ar y 4ydd o Fai ar ôl ei ohirio deirgwaith oherwydd y tywydd. Bu’n ddiwrnod llwyddiannus iawn wedi ei drefnu gan Gymdeithas Aredig a Phlygu Gogledd Ceredigion.

Criw bach yw’r pwyllgor ond maent i gyd yn gytûn bod cefnogi sefydliadau a gwasanaethau lleol yn hanfodol, ac eleni rydym yn hynod o ffodus eu bod wedi dewis ein helusen ni, HAHAV Ceredigion fel un o’r ddwy elusen roeddent am gefnogi. Rydym yn ddiolchgar iawn am bob ceiniog a dderbyniwn gan nad ydym yn derbyn unrhyw arian craidd cyson ac yn ddibynnol ar grantiau, elw o ddigwyddiadau fel hyn a rhoddion gan unigolion a chymdeithasau. Diolch yn fawr iawn am eich haelioni.

Cyflwynwyd siec o £1,000 tu allan i Ganolfan Byw’n Dda HAHAV ym Mhlas Antaron ar noson braf ar ddechrau mis Mehefin.

Dweud eich dweud