Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
Concwerwyr
Bob blwyddyn cynhelir cystadleuaeth goncyrs yn Nhafarn y New Inn yn nhymor yr Hydref. Daeth dros ddeg ar hunain o gystadleuwyr ynghyd yn yr ymgyrch i ennill y tlws a dathlu bod yn Bencampwr Concyrs y pentref.
Mae’r cyffro yn cychwyn wrth i’r concyrs gael eu casglu, eu tyłlu, eu rhaffu a’u sychu dan y ceubrennau yng ngwres y tân agored am tua mis.
Mae reffari i bob cystadleuaeth. Pawb yn gorfod defnyddio concyr o’r sach. Nifer y rhai sy’n cystadlu yn lleihau bob yn un. Yna ar y diwedd dim ond dau sy’n sefyll. Martin Helier cipiodd y tlws eleni gyda Michelle Day yn ail eleni eto.
Mae hi mor bwysig cadw traddodiadau gwledig fel rhain. Diolch i Yvonne ac Orwel am drefnu. Bywyd cefn gwlad ar ei orau.