Mae rhifyn mis Rhagfyr papur bro Y Barcud allan yn eich siopau lleol erbyn hyn. Golygwyd rhifyn mis Ionawr gan Ioan Williams, Lledrod a cheir sylw ar y dudalen flaen i Gantata’r Geni, sef stori’r geni wedi ei osod yn gyfan gwbl ar Gerdd Dant gan Bethan Bryn, fel rhan o Gyngerdd Cyhoeddi Gŵyl Cerdd Dant 2025.
Ceir hanes ein hysgolion cynradd yn perfformio yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd a hefyd yn codi arian i elusen Plant Mewn Angen yn eu pyjamas! Ceir hanes tîm hoci dan 16 Ysgol Henry Richard, oedd yn fuddugol yn nhwrnamaint Ceredigion, sylw i lansiad llyfr gan y Canon Aled Williams ar hanes Ysgol Ystrad Meurig, ac wrth gwrs, ceir cyfarchion Nadoligaidd gan drigolion y fro.
Ewch allan i hawlio eich copi a chefnogi ein papur bro. Dyma’r lleoliadau;
Aeron Booksellers, Aberaeron
Siop Glanarthen, Cross Inn
Siop y Smotyn Du, Llambed
Garej Jenkins, Tregaron
D.I. Davies, (Cigydd) Tregaron
New Inn, Llanddewi Brefi
Siop Llangeitho
‘Rhen Ysgol, Bwlchllan
Llwyn Onn ac Ardwyn, Bronant
Anrhegaron, Tregaron
Siop Nwyddau Caron Stores, Tregaron
Siop y Bont, Pontrhydfendigaid
Wyre View, Lledrod (honesty box)
Siop Llanilar
Siop Blaenplwyf
Siop Inc, Aberystwyth
Broc Môr, Aberystwyth
Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda i holl drigolion y fro!