Ar Nos Fawrth Ynyd, daeth aelodau Gofalaeth Caron ynghyd i gymdeithasu dan arweiniad y Gweinidog, y Parch Carwyn Arthur. Hyfryd oedd gweld pawb yn cydweithio er mwyn codi arian i’r elusennau eleni, Uned Strôc Bronglais a’r Banc Bwyd lleol.
John Meredith o gapel Penial, Blaenpennal oedd arweinydd y noson. Cafwyd eitemau gan Ysgol Sul Bwlchgwynt a Chapel Bwlchllan cyn ffest o boncage blasus wedi eu paratoi yn ffres gan aelodau. I ddilyn cafwyd cyfle i wylio ffilm fer o’r awyren Concorde yn hedfan. Yna olrhain taith y trên o Steshon Strata i Aberystwyth gyda throsleisio gan Brian Hopton.
Cyn cloi dyma gyfle i rannu ambell i atgof a chlywed cân Tęcwyn Ifan , ‘Ffarwel i Steshon Strata, Ffarwel i Ystrad Fflur’
Casglwyd £503 ar y noson tuag at elusennau’r flwyddyn. Diolch am eich haelioni ac i Ymddiriedolaeth Blakemore, Siop SPAR, Tregaron, am noddi drwy gyfrannu’r holl gynhwysion.