Nos Fercher, Tachwedd 6ed yn y Neuadd Goffa croesawyd yr aelodau gan Lisa Jones y Llywydd. Trafodwyd rhai materion a dymunwyd yn dda i’r tîm oedd yn cystadlu yn y Cwis Hwyl Cenedlaethol. Diolch i’r aelodau fu’n Aberaeron a chafwyd noson ddiddorol a hwyliog. Llongyfarchiadau i gangen Cylch Aeron ar ddod yn fuddugol yn Rhanbarth Ceredigion.
Estynnwyd croeso arbennig i Carys a Rhian sy’n ddwy ffrind oes. Athrawon oedd y ddwy wrth eu galwedigaeth cyn mentro allan i sefydlu busnes Cwyr Cain.
Datblygodd y syniad pan fynychodd y ddwy ddiwrnod o ddysgu sut oedd mynd ati i greu canhwyllau. Fe’u hysbrydolwyd gyda’r profiad a mynd ati i ddechrau ar y fenter! Soniodd y ddwy am yr her a’r sialens a brofasant ar hyd y ffordd ond gyda chymorth eraill sefydlwyd y fusnes llwyddiannus yma yn 2022. Maent yn creu’r canhwyllau eu hunain ac yn treulio amser yn perffeithio eu cynnyrch gyda dewis arbennig o bersawrau gwahanol. Arllwysir pob cannwyll gyda llaw gan ddefnyddio cŵyr soi naturiol a gwneir pob ymdrech i ddefnyddio cynnyrch eco-gyfeillgar i barchu’r amgylchedd.
Diolchwyd i’r ddwy am noson ddiddorol a difyr gan Ffion Medi. Soniodd fel yr oedd yn eu hedmygu am roi’r gorau i’w gyrfaoedd ym myd dysgu ac i wneud y penderfyniad i fentro i fyd busnes. Canmolwyd hwy hefyd eu bod yn cynnig gwasanaeth arbennig i hyrwyddo’r Gymraeg gyda’r holl gynnyrch.
Roedd y Neuadd yn arogli’n hyfryd gyda’r canhwyllau, toddion a thryledwyr persawrus. Cafwyd cyfle gwych i siopa erbyn y Nadolig gyda’r holl ddewis oedd gerbron! Dymuniadau gorau i Cwyr Cain i’r dyfodol, mae’n fusnes sy’n llwyddo ac yn profi’n boblogaidd iawn.
Enillwyd y wobr raffl gan Fflur Lawlor a pharatowyd paned o de a bisgedi gan aelodau Stryd y Capel a Phenrodyn.
Nos Fercher, Rhagfyr 4ydd cynhelir noson yng nghwmni Cacennau Gwen, croeso cynnes i aelodau newydd i ymuno gyda’r gangen.