Fy Newis i

Cymdeithas Hanes Tregaron

gan Eirwen James

Doedd neb yn siwr beth i’w ddisgwyl pan ddaeth Cymdeithas Hanes Tregaron ynhŷd i drafod llyfrau.

Dewisodd John Lewis Rhydybont lyfrau â chysylltiad teuluol neu ag  ardal Tregaron. Y llyfr emynau wedi ei argraffu yn y dref, y Testament yn rhodd ar ddau canmlwyddiant Capel Bwlchgwynt a gwaith Edward Richard yn sôn am Bont Einon. Yna Cerddi Ysgol Llanycrwys yn cynnwys gwaith brawd ei hen hen fam-gu sef Llwyd Llundain a Stafell Blaentwrch ble y bu y teulu yn byw cyn symud i’r Pant, Llanddewi Brefi. Yn olaf ‘Diary of a Welsh Swagman’ brawd  ei hen, hen, hen fam-gu ac wedi ei arwyddo gan y diweddar Ddoctor William Evans ac atgofion melys o fynd i Tyndomen i gael y llyfr wedi ei arwyddo ganddo a’i nith Miss Frances Evans.

Dewis Margaret Jones oedd llyfr am Dregaron â’i bris gwreiddiol yn 4s. 6d. Post 6d. ‘Tregaron: Historical and Antiquarian’ gan D C Rees. Cyhoeddwyd gan J. D. Lewis & Sons, Gomerian Press 1936. Ganed yr awdur yn Nhregaron ac fel y dwed yn y rhagair roedd yn teimlo ei bod yn bwysig Cofnodion hanes, traddodiadau a chwedlau yr hen dre’ cyn iddynt ddiflannu.

Ei hail ddewis oedd llyfr ysgrifennu ryseitiau Nel Jones, Bryncethin. Ryseitiau amrywiol yn cynnwys danteithion nas gwelwyd erioed ar fwrdd y gegin ym Mryncethin ond yn amlwg wedi apelio at ddant Nel (fel mae sawl un ohonom yn cael ein temtio i gofnodi ryseitiau ond byth yn eu coginio). Diddorol gweld ambell rysait cymydog, – mins peis ei chwaer Jane a rhai Olive Brynadam, ‘boiled cake’ Mary Ann y Felin, cacen ffrwythau a ‘rock cakes’ Betty (Ffosfelen) . Atgofion melys.

Dewis Bronwen Morgan oedd llyfr T J (Y Parch T J Davies) Martin Luther King a gyhoeddwyd yn 1969. Hanes M.L.K a geiriau y rhagair yn crynhoi y cwbwl “Bydd rhaid inni ddysgu byw gyda’n gilydd. Hynny a chynnal M.L.K, a gweddïo yr wyf y gall y gyfrol hon, ryw fodd neu’i gilydd, hyrwyddo cydfyw heddychol a chreadigol rhwng y gwahanol liwiau a chenhedloedd”
ac yn yr un flwyddyn cyhoeddwyd yr ail ddewis -“I know why the caged bird sings” gan y llenor a’r bardd Americanaidd Maya Angelou. Mae’r awdur yn adrodd hanes ei bywyd ifanc o 3 oed hyd at 16 pan ddaeth yn fam ifanc a’r ôl cael ei threisio.  Ar ôl dioddef hiliaeth, camdrin a gweld anfadwaith y Ku Klax Klan fe ddaeth yn berson ifanc hyderus a oedd yn medru ymateb i ragfarn.

Ei ardal enedigol, Mynachlogddu, Llangolman a Llandeilo oedd dewis Huw Davies. ‘O’r Witwg i’r Wern.’. (2011) Casgliad o adroddiadau byr yn y Gymraeg a’r Saesneg oddi wrth gwahanol grwpiau o bobl – wrth drigolion sydd wedi byw yn yr ardal ar hyd eu hoes, y rhai hynny sydd wedi symud i’r plwyfi ac hefyd y Cymry brodorol sydd ar wasgar erbyn hyn. Fel dywed yn y llyfr – “Mae’r gyfrol hon yn giplun o fywyd yng nghesail y Preselau”.
Cymdeithas Cwm Cerwyn sydd y tu ôl i’r gyfrol a Hefin Wyn yw’r golygydd a ddaeth a’r gweithiau at ei gilydd.

Dewisodd Eirwen James y llyfr ‘Caged Bird’ gan Katy Morgan-Davies. Stori wir gan ferch á’i gwreiddiau yn Nhregaron. Llyfr anodd ei stumogi am hanes dirdynnol magwraeth plentyn mewn sefyllfa bron yn anghredadwy.

Yna yn ail, ‘Haf Bach Mihangel’, Detholiad o atgofion Kate Ardwyn, mam ei hwncwl ‘Jac y Bo’, gŵr Anti Elsie. Stori menyw o flaen ei hamser sy’n cyfuno ei hunangofiant ‘Hafau fy Mhlentyndod’, ‘Cerddi Kate Davies’ ac ysgrif mewn llawysgrifen nad oedd wedi gweld golau dydd. Darlun o gymdeithas cefn gwlad ym Maesymeillion a Phrengwyn lle roedd Kate a’i gŵr Sioni yn byw. Yntau wedi colli ei olwg yn y Rhyfel Mawr ac yn darllen ‘braille’.

Noson o fwynhad. A’r fath amrywiaeth.

Dweud eich dweud