Dilyn ôl troed y Samariad Trugarog.
Fel rhan o’r ymgyrch llanw bocsys eleni llanwodd aelodau Gofalaeth Caron a’u cyfeillion 89 bocs o nwyddau i’w dosbarthu yn y gwledydd datblygol.
Enw’r ymgyrch yw ‘Operation Christmas Child – Samaritan’s Purse’ sy’n pwysleisio Cristnogaeth ymarferol a phwysigrwydd rhoi yn hytrach na derbyn. Mae’r prosiect yn seiliedig ar ddameg y Samariad Trugarog.
Mae gwylio fideo yn flynyddol a gweld wynebau’r plant wrth iddynt agor y bocsys yn rhoi pleser i’r rhai fu wrthi yn paratoi.
Mae’r prosiect yn canolbwyntio yn flynyddol ar ardaloedd sydd wedi eu dewis yn ofalus drwy ymgynghoriad trylwyr gan swyddogion ar lawr gwlad. Diolch i Gareth Jones, Lletypoeth, Llanddewi Brefi, (Gareth Pant), am gludo’r cyfan I Eglwys St. Michael’s, Aberystwyth, y man casglu.
Bydd y rhai mwyaf craff ohonoch yn gweld nad oes 89 bocs yn y llun. Mae hynny oherwydd bod 7 bocs wedi eu llanw ar-lein. Dymuna’r Gweinidog, y Parch Carwyn Arthur, ddiolch i bawb am eu haelioni eto eleni a hefyd am gyfrannu £5 y bocs ar gyfer cludo’r bocsys i’r dewis wledydd.
Pob bendith.