Hanes Lleol Ardal Ysgol Gynradd Rhos Helyg

Prosiect Cyffrous ar y gweill gan y plant

gan Efan Williams
6

Mae Ysgol Gynradd Rhos Helyg yn ysgol ardal sydd yn gwasanaethu cymuned wledig eang yng nghalon Ceredigion. Mae’r ysgol yn cwmpasu pentrefi Lledrod, Bronant, Blaenpennal, Bontnewydd, Penuwch, Bethania, Bwlchllan, Tyn’reithin a Llangeitho. Rydym ni fel teulu’r ysgol yn ymfalchïo yn ein hardal ac yn teimlo’n lwcus iawn i gael cynnal addysg mewn cymuned draddodiadol Gymreig a Chymraeg sydd â hanes a diwylliant mor gyfoethog.

Mae hanes yr ardal hon yn gyfoethog, a’i diwylliant yn hynafol. Er hyn, yn 2024 rydym ni’n dal i gadw’r cysylltiad hwn rhwng ein plant lleiaf a’u cyndadau, ac rydym yn ceisio cyfoethogi eu bywydau drwy feithrin cysylltiad â’r tir o dan eu traed a’r hanes a’r diwylliant sy’n eu hamgylchynu. Dyma sut mae datblygu dinasyddion egwyddorol a gwybodus.

I’r perwyl hwn, rai blynyddoedd yn ôl aeth plant Ysgol Rhos Helyg ati i gynnal prosiect hanes eu hardal leol, gan ganolbwyntio ar ambell i hanesyn, chwedl a stori o sawl lleoliad o amgylch ein bro a chreu map rhyngweithiol lle gellir clicio ar y lleoliadau a dysgu mwy am yr hanes.

Ceir hanes eira mawr Lledrod yn 1947, cawn ddysgu am B T Hopkins a’r Mynydd Bach, taith Dafydd Morgan a Humphrey Jones, a hanes Daniel Rowland. Cafodd y plant lawer o hwyl yn darganfod y straeon hyn. Cliciwch ar y map rhyngweithiol isod i ddysgu rhagor:

https://drive.google.com/file/d/1bXvTJaFHxe-eRoQKmunJZeOOwrAgAH_G/view

Yn 2024 mae ysgol ardal Rhos Helyg yn ddeng mlwydd oed! Felly, fel rhan o’r dathliadau rydym yn mynd i ail-ymweld â’r map rhyngweithiol ac ychwanegu rhagor o brosiectau ar hanesion, storïau a chwedlau ein hardal. Byddwn yn edrych ar Ryfel y Sais Bach ac Augustus Brackenbury, hanes rhai o’n sefydliadau crefyddol yn yr ardal, dysgu am dylwyth teg Cwm Crown Lledrod, astudio gwaith Ieuan Brydydd Hir a Llinos Wyre ac yn edrych ar sefydliadau a chlybiau hamdden hanesyddol yr ardal, fel clybiau CFfI a Merched y Wawr, a Chymdeithas Theatr Blaenpennal. Os oes gennych hanes neu chwedl yr hoffech chi i ni ymchwilio iddi ymhellach cysylltwch ag Efan Williams ar williamse1348@hwbcymru.net.

Mae dysgu am ein hanes lleol mor bwysig. Mae’n hanfodol  cysylltu cenedlaethau newydd â’r gymuned y maen nhw’n rhan ohoni a’u cysylltu â’n bro. Gorffennaf â geiriau B T Hopkins;

Daear y dwylo diwyd

Erwau’n hiaith a’n gwaith a’n hyd

Hon a biau ein bywyd.