Gwyrthwlan

Wonderwool

gan Eirwen James

Gwlan‼ Gwlan‼

Ar safle’r Sioe Fawr ar ddiwedd mis Ebrill mae cyfle i weld edafedd o bob lliw a llun a nwyddau gwaith llaw wedi eu gwneud o wlan a deunydd ffibr naturiol. Mae’r cyfan dan do, yn para deuddydd a’r stondinau wedi eu gosod o gwmpas safle’r sioe ddefaid. Daw pobl yno o bob cwr ac o bell ac agos. Y syndod mwyaf yw cyn lleied o bobl cefn gwlad â chefndir amaethyddol sy’n gwybod fod y fath ddigwyddiad yn bod.

Roedd ymwelwyr â’r Sioe â gwir ddiddordeb mewn gwau, nyddu, pannu a’ gweld peiriannau a theclynnau i  hwyluso’r gwaith. Rhai eitemau hen ffasiwn a’r lleill yn torri tir newydd. Roedd arddangosfeydd wedi eu trefnu a chyfle i fwynhau gweithdai ffeltio, argraffu neu grefftau newydd.

Roedd dafad ac oen ar ambell i stondin a’r nwyddau yn adlewyrchu rhinweddau cnyfyn y brîd. Roedd pob math o bethau ar werth, o sebon lanolin i obenyddion wedi eu llenwi â gwlan. Roedd yno garthenni traddodiadol, tecstiliau celfydd a dillad â thoriad clasurol ac anarferol ar brydiau.
Roedd gweld defnydd brodio wedi ei wneud o ddanadl poethion yn rhyfeddod ond yn un o’r defnyddiau adnewyddol mwyaf cofiadwy. Mae’n syndod nad yw’r cyfryngau wedi cydio mwy yn y digwyddiad… neu efallai mai fi sy’n camgymryd.

Wrth deithio mewn bws mini dros heolydd culion Cwmystwyth i gyrraedd y maes,  roedd y golygfeydd a lliw’r llethrau yn drawiadol. Diwrnod i’w gofio a rhywbeth at ddant ac i ateb poced pawb, bargen neu beidio.

Dweud eich dweud