Mae sesiwn Dydd Sadwrn yn cynnwys trafodaeth gan Phil Cope, arbenigwr ym maes ffynhonnau sanctaidd Cymru. Ros Briagha fydd yn arwain y drafodaeth ynglŷn â dewina am ddŵr, y tirwedd a dyfroedd sanctaidd. Mae Rowan O’Neil yn arlunydd, ysgrifennydd a pherfformiwr o Felinwynt, Ceredigion. Mae ei waith mwyaf diweddar yn ymwneud efo ffynhonnau yn Iwerddon ac yng Nghymru. Mae ffynhonnau yn aml yn cael ei priodoli fel asiantau sydd yn gallu cael ei defnyddio ar gyfer iachau. Mae Judith Tulfer yn fyfyrwraig PhD ac y bydd hi’n trafod swyn-ddynion y 19eg ganrif ac hefyd yn trafod cyfareddau.
Mae trafodaethau yn cychwyn am 10:30 ar ddydd Sadwrn y 6ed o Orffennaf a dilynir hwy gan gyngerdd prynhawn gan Elizabeth Still a Pefkin.
Mae tocynnau ar werth ar lein neu fe allwch brynu tocyn yn Riverbank Cafe. Mae manylion pellach ar gael ar y ddolen isod.