Gwasanaeth Teuluol

Capel Bwlchgwynt

Delyth Rees
gan Delyth Rees
IMG-20240121-WA0002

Ar fore Sul, 21 Ionawr croesawyd pawb i Wasanaeth Teuluol cyntaf y flwyddyn gan y Bugail.

Thema Clwb yr Ysgol Sul y tymor yma yw ‘Pwy yw’r Iesu?’ a chafwyd neges gan y Bugail i’r plant yn sôn am yr Iesu yn cyflawni gwyrth ac yn iachau’r dyn dall.

Cyflwynwyd yr emynau gan Megan Davies, Arthur Evans, Evan Jones a Dewi Siôn Evans. Darllenwyd gan Gwion a Grug Lewis Hughes ac offrymwyd gweddi gan Gwen Evans.

Cafwyd eitem hyfryd gan y plant yn canu emyn o’r Detholiad ‘O! rwyn caru’r Iesu’ i gyfeiliant Catherine Hughes.

Cyhoeddwyd a diolchwyd i bawb am gymryd rhan gan Gareth Jones a chasglwyd gan Gwion ac Arthur.

Mae Clwb yr Ysgol Sul yn cyfarfod bob dydd Iau yn y festri rhwng 3.30 a 5 o’r gloch ac estynnir croeso cynnes i blant Bl. 2 – 4 i ymuno yn yr hwyl.