Gwasanaeth Teuluol y Pasg

Capel Bwlchgwynt

Delyth Rees
gan Delyth Rees

Bore Sul, 17 Mawrth estynnwyd croeso i bawb gan y Bugail ac roedd yn hyfryd gweld y festri yn llawn i Wasanaeth Teuluol y Pasg.

Cyflwynwyd yr emynau gan Hallie Parkin, Belinda Dolphin, Dutt Panchall ac Ifan Williams. Darllenwyd o’r Ysgrythur gan Osian Jones, Grug Lewis Hughes, Mari Williams, Mabli Dark a Ianto James. Cafwyd eitem hyfryd gan blant Clwb yr Ysgol Sul a Chlwb Ieuenctid Caron yn canu emyn o’r Detholiad i gyfeiliant Catherine Hughes.

Ar drothwy’r Pasg cafwyd neges berthnasol gan y Bugail yn ein paratoi gogyfer â’r Ŵyl a diolch i Ifan, Gwion ac Arthur am ei gynorthwyo i gyfleu hanes yr Iesu yn marw drosom ar y groes. Roedd tipyn o ddyfalu gan bawb sut ddaeth y macynon lliwgar oedd mewn cylymau yn rhydd o’r groes ar ddiwedd y stori!

Casglwyd gan Danielle Smith a Jason Hopson a chyfeiliwyd gan Alice Jones. Diolchwyd i bawb a gymerodd ran gan Gareth Jones. Rhannwyd wyau Pasg i’r plant a’r ieuenctid ar ddiwedd y gwasanaeth.