Gwasanaeth Teuluol

CAPEL BWLCHGWYNT

Delyth Rees
gan Delyth Rees

Bore Sul, 17 Tachwedd cynhaliwyd Gwasanaeth Teuluol yn y Festri ac estynnwyd croeso cynnes i’r gynulleidfa gan y Gweinidog.

Cyflwynwyd yr emynau gan Magi Lawlor, Nel James, Nwla Jones a Gwenno Hughes. Casglwyd gan Magi a Gwenno a chyfeiliwyd gan Catherine Hughes.

Yn briodol iawn bod Catherine yn cyfeilio cafwyd cyfle i’w llongyfarch am ei  gwasanaeth o 50 mlynedd fel organyddes ym Mwlchgwynt. Bu’n cyfeilio yn yr Ysgol Sul a’r Oedfaon ac wedi bod yn gyfeilydd yn y Gymanfa Ganu dros y blynyddoedd a hefyd yn arwain rihyrsals. Cyflwynwyd llechen iddi gan y Gweinidog fel cydnabyddiaeth o’i hymroddiad a chyrraedd y garreg filltir arbennig

Diolch am gyfraniad amhrisiadwy yr organyddion dros yr holl flynyddoedd! Mae Llinos James wedi rhoi deugain mlynedd o wasanaeth ac Alice Jones wedi bod yn organydd ym Mwlchgwynt ers ugain mlynedd!

Diolchwyd i bawb am gyfrannu bocsys anrhegion Operation Christmas Child. Erbyn hyn casglwyd 90 o focsys. Diolch i’r Gweinidog ac Alicia am drefnu’r ymgyrch yma’n flynyddol ac i Gareth Jones, Llanddewi Brefi am gludo’r cyfan i’r man casglu yn Aberystwyth. Diolch i bawb am eu haelioni a sicrhau llawenydd i’r plant ac ieuenctid dros Ŵyl y Nadolig.

Dweud eich dweud