Gwasanaeth Teuluol

CAPEL BWLCHGWYNT

Delyth Rees
gan Delyth Rees

Bore Sul, 18 Chwefror estynnwyd croeso i’r Gwasanaeth Teuluol gan y Bugail.

Cafwyd neges bwrpasol gan y Bugail yn dilyn thema’r Ysgol Sul. Cyflwynwyd yr emynau gan Gwenno Hughes, Magi Lawlor, Nel James a Nwla Jones. Offrymwyd gweddi gan Gwenno a darllenwyd gan Arthur Sion Evans. Cyfeiliwyd gan Catherine Hughes a diolchwyd i bawb am wneud eu gwaith mor dda gan Gareth Jones. Casglwyd gan Gwen Evans ac Ifan Lawlor.

Roedd yn braf clywed bod bocsys Nadolig ‘Operation Christmas Child’ eleni wedi cyrraedd Moldova. Gwerthfawrogir cefnogaeth aelodau’r Ofalaeth a ffrindiau a gyfrannodd i’r ymgyrch hon gan roi gwên a hapusrwydd i’r plant a dderbyniodd yr anrhegion yn y wlad honno.

Ar noson Paned a Pancos a drefnwyd gan Ofalaeth Caron cyflwynwyd eitem gan blant y Clwb i gyfeiliant Catherine a gwnaethant fwynhau’r wledd o boncage oedd i’w ddilyn!

Mae Clwb yr Ysgol Sul yn cyfarfod bob dydd Iau yn y festri i blant Blwyddyn 2 – 4 rhwng 3.30 a 5 o’r gloch ac estynnir croeso cynnes i unrhyw un i ymuno yn yr hwyl.