Gwasanaeth Nadolig

Capel Bwlchgwynt

Delyth Rees
gan Delyth Rees
IMG-20241215-WA0022-1
IMG-20241215-WA0013

Prynhawn Sul, 15 Rhagfyr cynhaliwyd Gwasanaeth Nadolig yn y capel a chroesawyd y gynulleidfa dda a ddaeth ynghyd gan Parchg. Carwyn Arthur.

Cyflwynwyd y carolau a’r darlleniadau gan yr ieuenctid canlynol – Dutt Panchall, Lois Davies, Twm James, Mabli Dark, Anni Grug Lewis-Hughes, Osian Jones, Mari Williams, Dafydd Bennett a Gwilym Jones.

Canwyd dwy eitem swynol gan blant Clwb yr Ysgol Sul a’r Clwb Ieuenctid dan arweiniad Catherine Hughes. Cafwyd eitem hyfryd yn canu ‘Seren ar y goeden’ gan Lois ac Anni Grug. Cyfleuwyd naws Nadoligaidd arbennig yn y capel a chawsom ein hatgoffa o wir ystyr yr Ŵyl.

Casglwyd gan Gwilym ac Owen Jones a chyfeiliwyd gan Alice Jones.

Diolchodd y Bugail i’r plant a’r ieuenctid am wneud eu gwaith gyda graen. Diolchwyd hefyd i’r rhieni am eu cefnogaeth ac i arweinyddion y ddau Glwb am eu gwaith gydol y flwyddyn.

I ddilyn estynnwyd croeso i bawb i’r festri lle’r oedd y gwragedd yn garedig iawn wedi paratoi paned a mins peis a diolch i Sian Evans a Heddwen Evans am drefnu. Roedd yna dipyn o gyffro ymysg y plant pan ddaeth cnoc ar y drws a Sion Corn yn cerdded i mewn a bu’n garedig iawn i rannu bocs o siocledi i bawb a gymerodd ran. Dymunwyd Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda a dedwydd i bawb.

Diolch i Fflur Lawlor am y lluniau.

Dweud eich dweud