Gofalaeth Caron

Y Pentecost

gan Eirwen James
IMG_0576-1
IMG_0575

Y Pentecost yng Nghapel Bwlchllan

Ar Sul heulog braf daeth aelodau Gofalaeth Caron ynghyd dan arweiniad y Parch Carwyn Arthur i wasanaeth y Pentecost. Daeth y darlleniadau o Actau’r Apostolion a’r emynau yn gofnod o dywalltiad yr Ysbryd Glân yn yr Eglwys Fore.

Croesawyd Hector Macdonald a’r teulu ifanc o Batagonia i ganu yn y gwasanaeth. Hyfryd fu clywed datganiad o ‘Dwy law yn erfyn sydd yn y darlun’ i gyfeiliant Hector, y cerddor dawnus, ar y gitâr acwstig.

Roedd pob capel wedi eu cynrychioli a chroesawyd pawb gan Bronwen Morgan.  Cyfeiriodd y Gweinidog at ymgyrch Cymorth Cristnogol sy’n cynnig cyfle i wneud gwahaniaeth ymarferol yn enw’r Eglwys. Roedd y bregeth yn amserol ac yn berthnasol i Oedfa’r Pentecost. Cyfeiliwyd gan Alwena Lloyd Williams.

Roedd y paned te yn y festri yn dderbyniol iawn. Diolch i aelodau Capel Bwlchllan am weini. Roedd yn dda cael cyfle i gymdeithasu a rhoi’r byd yn ei le.

Bydd casgliadau’r Ofalaeth am y flwyddyn a aeth heibio yn cael eu cyfrannu i Uned Strôc Ward Ystwyth, Ysbyty Bronglais a’r Banc Bwyd Lleol drwy law’r Trysorydd John Lewis. Bydd dros £400 yr un  yn cael eu cyfrannu  i’r ddau achos.