Gardd Gymunedol

Llanddewi Brefi

gan Eirwen James

Mae gwaith plannu wedi dechrau ar Ardd Gymunedol Neuadd a Chae Chwarae Llanddewi Brefi gan gynnwys deunydd i lunio llwybr a pherllan, diolch i arian o gronfa gymunedol Loteri Genedlaethol – y Jiwbilî. Bydd yn Ardd Goffa i’r diweddar Frenhines Elizabeth II.

Derbyniwyd  pecynnau i blannu perth dan gynllun cyfredol Ymddiriedolaeth Coed Cadw.

Daeth coed ifanc wrth ‘Coed am ddim i ysgolion a chymunedau’  a chafodd rhai eu meithrin yn lleol gan wirfoddolwyr  o Warchodfa Natur Llanddewi Brefi. Diolch i’r gwirfoddolwyr am ddyfrhau a gofalu ar ôl y coed a’r planhigion tra bod yr ardd yn cael ei strwythuro yn 2023. Mae pedair coeden ffrwythau gynhenid Gymreig wedi eu plannu ac mae mwy i ddod.

Mae sgrîn werdd o blanhigion wedi eu gosod i wahanu’r ardd wrth y parc chwarae a denu gwenyn, ieir bach yr haf a bywyd gwyllt

Dymuna  Elusen Neuadd a Chae Chwarae Llanddewi Brefi ddiolch i  Mr. Duncan Spooner o ‘Spooner Landscapes’ am roi o’i amser a rhoi benthyg offer torri  er mwyn llunio’r llwybr. Diolch I aelodau’r Pwyllgor a gwirfoddolwyr am eu diwydrwydd.

Bydd y llwybr yn addas i gadair olwyn a bydd mainc yn cael ei gosod ar y safle a fydd yn cynnig golygfeydd o’r cae chwarae a’r mynydd – dir tu hwnt.

Hyderwn ein bod wedi creu ardal heddychlon yng nghalon y pentref, lle i ymlacio mewn tawelwch yn yr awyr agored a lloches a fydd yn gynefin i fywyd gwyllt.

Dweud eich dweud