Ffair Briodas a Digwyddiadau ym Mhafiliwn Bont

Dydd Sul 4ydd Chwefror

Manon Wyn James
gan Manon Wyn James
Lowri Steffan

Lowri Steffan o gwmni Steilio Dots

Pafiliwn Bont fydd y lle i fod ddydd Sul 4ydd Chwefror wrth i Ffair Briodas a Digwyddiadau newydd sbon gael ei gynnal am y tro cyntaf.

Cwmni Steilio Dots sydd â stiwdio yn Nhregaron sy’n trefnu’r cyfan, lle fydd amrywiaeth o fusnesau lleol yn arddangos eu gwasanaethau a chynnig cyngor i unrhyw un sy’n trefnu priodas neu’n bwriadu trefnu digwyddiad o unrhyw fath.

Ymhlith y stondinwyr fydd cwmni Ceir y Cardi, siopau blodau hyfryd Botanica ac Expressions, Seren Celebrants, cwmni A Love For Lights, booth lluniau Ultrabooth, cynrychiolwyr ar ran lleoliadau anhygoel Plas Nanteos, Fferm Bargoed, Y Banc Tregaron a Tanygraig, ffotograffwyr FfocalPoint, Susanne Ryder a TLL.Media, Argraffwyr Lewis+Hughes, gemwaith L P-D ac Elen Bowen, gwisgoedd La Môr Bridal a Dyfed Menswear, Siop Gacennau Gwen ac Ami’s bakes, Synergy Sound DJ Service, telynorion Joy Cornock a Heledd Ifan Davies, yn ogystal â Actif-i-ti, Cwyr Cain, Gofal Plantos Prysur a Carys Boyle Ceramics – a llawer mwy!

Mae gan Steilio Dots dros bymtheg mlynedd o brofiad mewn trefnu digwyddiadau yn ogystal â steilio digwyddiadau o bob math, ond dyma’r tro cyntaf i’r cwmni gynnal Ffair Briodas a Digwyddiadau. Lowri Steffan sydd â’r weledigaeth ac sy’n esbonio mwy:

“Dwi wedi bod yn ymweld â ffeiriau priodas a digwyddiadau led led Cymru a thu hwnt ers blynyddoedd lawer ac roeddwn yn awyddus iawn i gynnal rhywbeth tebyg yng Ngheredigion. Mae yna gymaint o fusnesau gwych yn yr ardal sy’n cynnig gwasanaethau o’r safon uchaf a bydd hwn yn gyfle iddynt arddangos yr hyn sydd ganddynt i’w gynnig ac yn gyfle i ni ddathlu’r amrywiaeth o dalent sydd yma’n lleol. Mae Pafiliwn Bont yn ofod perffaith i arddangos pob dim o dan un to. Felly os ydych yn trefnu digwyddiad o unrhyw fath, boed yn barti teuluol, dathliad arbennig, parti plu, gŵyl, cynhadledd neu wrth gwrs briodas, dewch draw i sgwrsio, mwynhau a thrafod gyda’r llu o stondinwyr ac arbenigwyr.”

Bydd y ffair ymlaen rhwng 11.00 a 3.00 gyda’r 50 person cyntaf yn cael bag rhodd wrth gyrraedd. Mae mwy o wybodaeth ar dudalen Facebook Steilio Dots.