Eisteddfod Gadeiriol Tregaron – Dydd Sadwrn

Dyma’r lle i gael holl ganlyniadau’r Eisteddfod.

Meirian Morgan
gan Meirian Morgan

Dyma y lle i gael holl canlyniadau’r Eisteddfod ar ddydd Sadwrn.

21:01

IMG_3946

Llongyfarchiadau mawr i Morgan Owen am ennill y gadair eleni. 

20:25

Morgan Owen yw’r bardd buddugol. Llongyfarchiadau mawr iddo! 

20:18

“Cae Bach” sy’n drydydd am y gadair, am awdl er cof am Charles Arch.

“Twm” sy’n ail am awdl hefyd, yn sôn am ryfel. 

Yn fuddugol mae “Pentir.” Mae’r bardd yn mynd â ni ar daith ar hyd yr arfordir wrth iddo chwilio am dawelwch meddwl. “Mae’r gerdd yn canu,” meddai’r bardd, Eurig Salisbury. 

20:07

Seremoni Cadeirio’r bardd yn dechrau nawr. 

19:55

Cân Bop neu allan o Sioe Gerdd (grŵp neu unigolyn)

1. Merched Soar

2. Elin Williams, Tregaron

3. Osian Fish-Jenkins, Tregaron

19:48

Ambell lun o Seremoni Tlws yr Ifanc. 

19:41

Pedwarawd Agored

1. Soar Bach

19:36

Elin a Swyn yn derbyn eu gwobrau. 

19:35

Disgyblion yr ysgol yn paratoi cyn Seremoni Tlws yr Ifanc. 

19:34

Llongyfarchiadau i Elin Pierce Williams ar gipio Tlws yr Ifanc yr Eisteddfod gyda chlod mawr am stori fer wych! Roedd Eurig Salisbury yn llawn canmoliaeth i’r gwaith. 

Dyma lun o’r llenor buddugol gyda’r beirniad a disgyblion Ysgol Henry Richard a oedd yn rhan o’r Seremoni.