Dyma y lle i gael holl canlyniadau’r Eisteddfod ar ddydd Sadwrn.
Elin a Swyn yn derbyn eu gwobrau.
Disgyblion yr ysgol yn paratoi cyn Seremoni Tlws yr Ifanc.
Llongyfarchiadau i Elin Pierce Williams ar gipio Tlws yr Ifanc yr Eisteddfod gyda chlod mawr am stori fer wych! Roedd Eurig Salisbury yn llawn canmoliaeth i’r gwaith.
Dyma lun o’r llenor buddugol gyda’r beirniad a disgyblion Ysgol Henry Richard a oedd yn rhan o’r Seremoni.
Monolog
1. Elin Williams, Tregaron
2. Swyn Tomos, Pencarreg
Canu Emyn dros 60 oed
1. Marianne Jones Powell, Llandre
2. Sulwen Davies, Felindre Fach
Darllen darn o’r Ysgrythur
1. Meleri Morgan, Bwlchllan
2. Elin Williams, Tregaron
3. Fflur McConnell, Aberaeron a Delyth Morgans Phillips, Talsarn
Seremoni Tlws yr Ifanc – Llongyfarchiadau mawr i Elin Pierce Williams am ddod i’r brig eleni a’i Stori Fer Y lle ym mhlyg y map.
Canu Emyn Bl. 7-13
1. Fflur McConnell, Aberaeron
2. Swyn Tomos, Pencarreg
3. Harri Evans, Llangeitho
Unawd Offerynnol Bl. 7-13
1. Fflur McConnell, Aberaeron
2. Angharad Thomas, Llangwyrfon
3. Mair Hopkins, Llanbedr Pont Steffan
Llefaru Bl. 10-13
1. Swyn Tomos, Pencarreg
2. Fflur McConnell, Aberaeron
3. Mari Williams, Tregaron