10 diwrnod i fynd tan rali Tregaron !

Mae’r cyffro yn byrlymu ym mro CFFI Tregaron.

gan Ianto James
IMG_0586
IMG_0585

Mae llawer o baratoadau yn digwydd ar hyn o bryd ar fferm Dolyrychain, Pontrhydfendigaid sef lleoliad Rali CFFI Ceredigion. Mae’r holl aelodau wedi dod at ei gilydd i helpu paentio arwyddion, brwshio a phaentio’r siedau a sicrhau fod popeth yn ei le i groesawu ffermwyr ifanc Ceredigion.

Bydd y rali yn cychwyn am 9 y bore ar ddydd Sadwrn 1af o Fehefin a bydd dawns yn dilyn am 8 yr hwyr gyda cherddoriaeth gan y band Newshan,  DJ Gwion ap Iago ac wrth gwrs heb anghofio DJ oili.

Llywydd y rali yw David Edwards (Dai John) Sunnyside. Bydd cymanfa yng Nghapel Bwlchgwynt y diwrnod wedyn am 7:30 yr hwyr. Arweinydd y gymanfa yw Carwen Lloyd a’r gyfeilyddes yw Carys Ann Davies. Llywydd y gymanfa yw Mr Evan a Mrs Alice Jones. Mae elw’r gymanfa yn mynd at Apêl Ward Cemotherapi Ysbyty Bronglais. Edrychwn ymlaen yn fawr at benwythnos i’w gofio!