Mae’r ffermwr lleol a Chynghorydd Sir -Wyn Evans, Nantbyr Uchaf, Tyngraig wedi bod yn cadeirio cyfarfodydd cyhoeddus ar draws Cymru yn ddiweddar, er mwyn i ffermwyr a busnesau gwledig ddangos ei anfodlonrwydd gyda nifer o bolisïau’r Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd.
Ers blynyddoedd bellach mae ffermwyr Cymru wedi bod yn teimlo rhwystredigaeth fawr gyda pholisïau’r Llywodraeth ynglŷn a materion gwledig. Y tri phrif fater yw-
1. Polisi’r Llywodraeth tuag at ddelio gyda TB (Tuberculosis) mewn gwartheg,
2. Y polisi NVZ (Nitrate Vulnerable Zones) Cymru gyfan, sy’n gorfodi holl ffermydd Cymru i gydymffurfio gyda rheoliadau mor llym o’r defnydd o nitradau sydd yn tanseilio busnes y fferm.
3. Ymgynghoriad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy- sef y polisi amaeth newydd i Gymru ers gadael yr Undeb Ewropeaidd -sydd ynghyd a nifer o reolau eraill yn disgwyl i ffermwyr neilltuo 10% o’u tir i dyfu coed.
Yn ogystal â hyn i gyd mae bygythiad gan y Llywodraeth i newid y tymor ysgol fel bod ysgol yn ystod wythnos y Sioe Fawr yn Llanelwedd bob Mis Gorffennaf.
Mae teimladau yn y gymuned wledig bod gan y Llywodraeth Lafur agenda i danseilio bywyd gwledig Cymru yn gyfan gwbl. Mewn ymateb i’r rhwystredigaeth hyn, daeth grŵp at ei gilydd i greu ymgyrch ‘Digon yw Digon’. Bu dros 1,000 o bobl mewn cyfarfod ym Mart Y Trallwng ar y 1af o Chwefror a bu dros 3,000 ym Mart Caerfyrddin wythnos yn ddiweddarach. Roedd y gefnogaeth i’r cyfarfodydd hyn yn anfon neges glir i’r gweinidog amaeth am anfodlonrwydd ffermwyr Cymru.
Ymysg y siaradwyr yn y cyfarfod yng Nghaerfyrddin oedd Prys Morgan o gwmni cig Kepak , Merthyr Tydful ac Edward Morgan o gwmni bwyd Castell Hywel. Neges y ddau oedd y byddai tanseilio’r diwydiant mwyaf yng Nghymru- sef y diwydiant bwyd a diod yn cael effaith wael ar eu busnes nhw hefyd, a dyfodol eu staff.
Cyfeiriodd Rhys Beynon Thomas – milfeddyg o Gaerfyrddin at bolisi Llywodraeth Cymru o ddelio gyda’r diciâu (TB) mewn gwartheg. Adroddodd fod y polisi ddim yn effeithiol oherwydd bod data’r Llywodraeth ei hun yn cadarnhau fod yn achosion o’r diciâu yn uwch nawr na fu yn 2013, a bod 9,000 o wartheg wedi cael eu difa yn 2023 i gymharu gyda 6,000 yn 2013. Er mwyn i’r polisi fod yn fwy effeithiol ychwanegodd fod angen delio gyda’r diciâu (TB) ym mywyd gwyllt yn ogystal â gwartheg.
“Mae’n hanfodol bwysig ein bod yn datgan ein llais yn gryf yn erbyn y polisi mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori arno ar hyn o bryd,” meddai Wyn, sy’n gyn-swyddog Sirol a Chenedlaethol gydag Undeb NFU Cymru. “Mae’r polisi arfaethedig yn tanseilio’r diwydiant i’r dyfodol. Mae cyfartaledd oedran ffermwyr yn uchel ar hyn o bryd, felly ma rhaid creu sefyllfa sy’n denu pobl ifanc i’r diwydiant er mwyn sicrhau’r dyfodol” ychwanegodd. “Mae’r cyfarfodydd diweddar yn dangos beth yw cryfder teimladau yn gefn gwlad ar hyn o bryd, ac mae’r aelodau yn y cyfarfodydd hyn wedi rhoi mandad clir i ni barhau’r ymgyrch Digon yw Digon”
Mewn ymateb i’r cyfarfodydd cyhoeddus, adroddodd dau o’r trefnwyr Gary Howells ac Aled Rees heddiw eu bod nhw ac eraill wedi derbyn gwahoddiad i gyfarfod gyda’r gweinidog materion gwledig Leslie Griffiths a’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn fuan.
Diolch i Wyn ac eraill am wneud ‘Digon yw Digon’ ac arwain yr ymgyrch hon ar ran y gymuned wledig, a phob dymuniad da iddynt.