Dathlu Gŵyl Ddewi gyda Gareth Richards

Merched y Wawr Tregaron

Delyth Rees
gan Delyth Rees
IMG-20240308-WA0004-2

Bu’r gangen yn dathlu Gŵyl ein Nawddsant ar nos Fercher, 6 Mawrth gyda Gareth Richards a chafwyd croeso cynnes ganddo i’r Goedwig.

Croesawyd yr aelodau ynghyd gan Manon Wyn James, y Llywydd. Offrymwyd gras a mwynhawyd gwledd arbennig wedi ei pharatoi gan Gareth.

Yn dilyn estynnodd Manon groeso i barti Harmoni, sef criw o ferched lleol oedd yn ein diddanu. Cawsom wledd arall i wrando arnynt yn canu caneuon clasurol, alaw werin a llefaru. Mwynhawyd eitemau swynol dros ben a chyfeiliwyd iddynt gan Heledd Parry. Margaret Jones dalodd pleidlais o ddiolch i Gareth Richards am baratoi gwledd flasus ar ein cyfer ac i barti Harmoni am eu cyfraniad hyfryd hwythau.

Enillwyd y gwobrau raffl gan Catherine Hughes, Iona Davies a Delyth Rees.

Edrychir ymlaen at groesawu Marian Nixon atom ar nos Fercher, 3ydd o Ebrill.