Darllen Difyr – Give Welsh a Go! Ysgol Rhos Helyg

Sesiwn olaf am eleni o’r cynllun

gan Efan Williams

Cynhelir ein sesiwn olaf o gynllun Darllen Difyr – Give Welsh a Go! am eleni yn Ysgol Gynradd Rhos Helyg, safle Llangeitho ar nos Fawrth 25 Mehefin am 6.00.

Cynllun yw hwn wedi ei drefnu a’i ddarparu gan Ysgol Gynradd Rhos Helyg, gyda’r nod o gryfhau’r cysylltiad rhwng rhieni, plant ein hysgol, yr ysgol a’r gymuned, hybu a chodi hyder dysgwyr Cymraeg, a gyda’r pwyslais ar hybu darllen yn y cartref. Mae sesiynau darllen grŵp wedi eu datblygu yn yr ysgol hefyd, pan mae plant y ddau safle yn dod ynghyd ac yn cynnal grwpiau darllen mewn cydweithrediad â holl staff yr ysgol a gwirfoddolwyr o’r gymuned.

Cawsom lansiad hyfryd yng nghwmni Mererid Hopwood ym mwyty’r Hungry Ram, Penuwch nôl ym mis Ebrill. Ers hynny mae dwy sesiwn wedi bod. Cynhaliwyd un yn Llangeitho ym mis Mai gyda Dafydd a Mandi Morse yn diwtoriaid a Menna Beaufort Jones, Anwen Jones ac Emyr Lloyd yn cynnal y grŵp trafod. Thema’r noson oedd y gemau Olympaidd a chafwyd fideo gan Owain Doull i ysbrydoli pawb.

Ym Mronant oedd yr ail sesiwn ar ddechrau mis Mehefin. Daeth Esyllt Môn Betts atom yn diwtor, a chafwyd trafodaeth ddiddorol dros ben am les ac iechyd meddwl yng nghwmni Laurie Hughes o Gyngor Sir Ceredigion a Rhiannon Parry o gwmni Er dy Les Di. Iaith a Diwylliant Cymru oedd y thema ac roedd yn rhaid ail-fwynhau perfformiadau ysbrydoliedig Ruby Davies yn Eisteddfod yr Urdd i danio’r brwdfrydedd.

Mae’r sesiwn olaf am eleni yn digwydd ar nos Fawrth 25 Mehefin ar safle Llangeitho. Mae Ema Miles yn dod atom fel tiwtor ac mae Steff Rees o Cered, a phrif leisydd y grŵp Bwca, yn dod atom i gynnal y grŵp trafod ar gerddoriaeth Cymraeg. Mae’n siŵr y bydd Steff yn cael pawb i ganu erbyn diwedd y noson!

Hoffwn ddiolch i bawb am bob cymorth wrth drefnu’r cynllun hwn. Mae wedi bod yn brosiect buddiol iawn i bawb ac wedi bod yn gyfle i’r ysgol ymgysylltu gyda’r gymuned ehangach mewn llawer ffordd. Braf yw gweld y cynllun yn cyrraedd penllanw. Yn bennaf hoffwn ddiolch o galon am frwdfrydedd heintus y rhieni ac aelodau o’r gymuned rheini sydd wedi ymgymryd â’r her o ddysgu tipyn o Gymraeg!

Dewch yn llu i’r sesiwn olaf i ni gael gorffen ar nodyn uchel. Mae croeso i bawb!