Cyffro caffi newydd Tregaron

Halen a Pupur ar fin agor ei drysau

Manon Wyn James
gan Manon Wyn James
Llun

Morfudd a Claire, perchnogion Halen a Pupur

Llun-3
Llun-4

Mae dwy fenyw leol wedi dod at ei gilydd i agor busnes newydd yn Nhregaron. Mae caffi newydd Halen a Pupur ar fin agor ei drysau ac mae tipyn o edrych ymlaen yn yr ardal.

Gweledigaeth Morfudd Pugh a Claire Davies yw Halen a Pupur. O Awstalia daw Claire yn wreiddiol a tra yn Awstralia bu Claire yn rhedeg nesbus ei hun yn cefnogi mamau cyn ac ar ôl geni, ac o hynny daeth ei chariad at fwyd. Yn ogystal treuliodd Claire gyfnod o ddeng mlynedd yn byw yn Melbourne, sef dinas sy’n cael ei hadnabod am ei bwytai a’i diwylliant bwyd. Mae Claire erbyn hyn wedi ymgartrefu yn Llanddewi gyda’i gwr Glyn a’u dau fachgen. Merch leol yw Morfudd wedi ei magu ond ychydig filltiroedd i ffwrdd a bellach yn byw yn Nhregaron gydag Owain ei gwr a’i phedair merch. Mae Morfudd wedi gweithio yn y maes lletygarwch am dros ddeng mlynedd yn ogystal â rhedeg busnes harddwch a lles ar-lein am y tair blynedd ddiwethaf.

“Ar ol i Claire symud yma blwyddyn yn ôl, ar ddwy ohonom ni ag amser i fynd am baned yn ystod y dydd fe ddaeth i’r amlwg i ni bod yn bendant galw ar gael yn Nhregaron am gaffi, ond hefyd un  gydagelfen ychydig yn wahanol i’r hyn sydd yn yr ardal yn barod.” meddai Morfudd.

Felly o ble daeth yr enw Halen a Pupur tybed?

“Mae halen a pupur yn fwy nag enw i ni. Mae’n symbol o sut mae’r ddwy ohonom yn wahanol iawn i’n gilydd – fel mae halen a phupur. Ac maent yn mynd yn dda gyda’i gilydd wrth gael eu hychwanegu at fwyd.”

A be’ allwn ni ddisgwyl yn Halen a Pupur?

“Rydym ein dwy yn hoff iawn o opsiynau brunch felly mae’r elfen yna i weld yn amlwg ar ein bwydlen, yn ogystal a waffles poblogaidd Claire a oedd yn hit mawr gyda’i chleientiaid yn Awstralia. Bydd hefyd opsiynau mwy ysgafn ar gael sef baguettes, paninis a thaten bôb gydag amryw o wahanol lenwadau yn ddyddiol.

Bydd cacennau, coffi, diodydd oer ac wrth gwrs rhaid oedd ychwanegu ambell ‘aussie twist’ i rai o’r bwydydd a’r diodydd.”

Bydd Halen a Pupur yn agor ei drysau ddydd Llun 12 Chwefror ac ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Sadwrn 9.00 -3.00. Mae disgwyl cyflwyno oriau hirach wrth i’r tywydd wella er mwyn gwneud yn fawr o’r ardal braf sydd yng nghefn y caffi.

Cofiwch alw draw!