Enw cyfarwydd iawn i bobol Tregaron ac yn wir ar draws Cymru yw Arthur Siôn Evans a fe sy’n serenni yn hysbyseb Nadolig Llwyddo’n Lleol eleni. Mae’n ein tywys drwy’r stori yn ei ffordd hyfryd ei hun gan ddod â naws y Nadolig i’ch stafell fyw! Dilynwch y linc isod i’w gwylio:
https://www.facebook.com/profile.php?id=61568732038853
Wedi’i gynhyrchu gan Wes Glei, mae’r hysbyseb yn dilyn stori teulu sydd wedi dychwelyd i ardal Arfor, sef Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr. Mae hwn yn hysbyseb i Llwyddo’n Lleol 2050 sy’n rhan o Raglen Arfor.
Nod Llwyddo’n Lleol 2050 yw ‘darbwyllo pobl ifanc a theuluoedd ifanc sydd mewn peryg o adael neu sydd eisoes wedi ymadael bod modd cael dyfodol disglair, gyda swydd dda o fewn maes cyffrous, yn eu cymuned gynhenid’.