Clwb Ffermwyr Ifanc Llanddewi Brefi

Gweithgareddau diweddar y Clwb ac i’r dyfodol gan Mari Edwards

gan Mari Edwards
Barnu-stoc
Malen-Jenkins-yn-chwarae'r-delyn
Osian-Jenkins-drydydd-Emyn Nofis
Y-Sgets
Deuawd-Doniol-Mared-a-Ceri

Cafwyd noson lwyddiannus wrth ymarfer barnu Stoc ar Fferm Penrallt. Diolch i’r teulu am y croeso cynnes.  Bu rhai o’r arweinyddion ac aelodau hŷn yn dysgu’r aelodau ifanc am dda tew, moch a defaid.  Mwynheuodd yr aelodau a dysgodd pawb lawer am y grefft o farnu stoc.  Diolch i Llinos James a Nerys Evans am y danteithion blasus yn dilyn gwaith caled yr aelodau – ac wrth gwrs cwpaned o dê i dwymo ar ôl gorffen!

Mae wedi bod yn fis prysur iawn efo ymarferion Eisteddfod y Sir, a gynhaliwyd ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid.  Ar nos Wener y 11eg o Hydref bu mwyafrif o aelodau’r clwb yn cystadlu yn y meim.  Roedd y safon yn uchel iawn, a cystadlu brwd rhwng yr 15 clwb a fu’n cymryd rhan.  Thema’r meim eleni oedd ‘anifeiliaid’.  Mwynheuodd aelodau’r clwb y profiad o gystadlu ar y llwyfan wedi gwisgo i fyny fel anifeiliaid fferm a sŵ.

Roedd yn ddiwrnod prysur i aelodau’r clwb ar ddydd Sadwrn 19eg o Hydref efo rhagor o gystadlu fel unigolion ac mewn grŵp.  Bu Malen Jenkins yn cystadlu yn yr unawd offerynnol, ac Osian Jenkins yn cystadlu yng ngystadleuaeth Cân o Sioe Gerdd, a’r Emyn Nofis lle daeth yn drydydd.  Bu’r aelodau’n cystadlu yn y sgets, y Parti Llefaru, a Mared Lloyd Jones a Ceri Davies yn y Ddeuawd Doniol.

Bu nifer o’r aelodau yn cystadlu yn y gwaith cartref, a oedd yn cael eu arddangos yn y Pafiliwn.  Daeth llwyddiant i Sara Davies a ddaeth yn 1af am y poster A4 16 oed neu iau, 3ydd i Daniel Evans am ysgrifennu llythyr i Aelod o Senedd Cymru, a 3ydd i Malen Jenkins am gyfansoddi darn offerynnol. Fel Brenhines y Sir, bu Mared Lloyd Jones yn arwain yr eisteddfod yn ystod dydd Sadwrn.

Ar nos Iau y 24ain o Hydref, cynhaliwyd Cwrdd Diolchgarwch y clwb yn Eglwys Dewi Sant. Diolch i’r Parchedig Nicholas Bee am y croeso, ac am gynnal y gwasanaeth.

Rydym nawr yn edrych ymlaen i groesawi’r cyhoedd i Noson Tân Gwyllt Llanddewi Brefi ar y 5ed o Dachwedd ar gaeau Canolfan Cymuned Llanddewi Brefi  – arddangosfa Tân Gwyllt, bwyd a gemau, croeso i bawb!

Ysgrifennwyd gan Mari Edwards

Dweud eich dweud