Clwb Ffermwyr Ifanc Llanddewi Brefi

Mari Edwards

Prif-Gylch
Float-Carnifan-Llanddewi-Brefi

Yn dilyn Rali’r Sir ar Fferm Dolyrychain, Tregaron dechrau mis Gorffennaf, lle gafodd y Clwb lwyddiant mewn sawl cystadleuaeth, ac mi aeth yr aelodau i gynrychioli’r Sir yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd.   Mi ddaeth yr Arddangosfa Ffederasiwn i’r brig yn y sir ac ar lefel Cymru, yn y gystadleuaeth hon yr oedd rhaid dehongli dathliad 200 flynedd o’r RNLI.  Mi fu Angharad Miles, Angharad Griffiths, Rhian Griffiths, Andrew Davies, Malen Jenkins a Gwenno Herrick yn brysur yn gweithio ar yr arddangosfa.  Prif Gylch Llanddewi Brefi fu yn cynrychioli’r Sir hefyd, yr oedd yn ddau ran, efo cyflwyniad o’r pedwar aelod yn cynrychioli’r gwasanaethau brys, a’r ail ran efo’r 4 yn gwneud It’s a Knockout.  Yn cynrychioli’r Clwb oedd Ceri Davies, Daniel Evans, Gwion Pugh a Mabli Dark.  Mi ddaethant i’r brig yno hefyd a chael cyntaf ar lefel Cymru.  Mi fu Angharad Lewis Griffiths yn cystadlu yn y barnu gwartheg bîff a’r Ladis Pinc yn tynnu’r gelyn.

Yn ystod seremoni canlyniadau dydd Mercher yn Y Sioe Frenhinol, cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Gwledig yr aelodau llwyddiannus ar gyfer Cystadleuaeth Prif Gynhyrchwr Porc Cffi Cymru 2024.  Bu nifer fawr o geisiadau cryf eleni gyda saith aelod yn llwyddiannus yn eu hymgais i gychwyn menter moch eu hunain.  Llongyfarchiadau i Rebeca James o’r Clwb yn rhoi Llanddewi Brefi ar y map.

Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Clwb ar ddechrau mis Awst yn Neuadd y Pentref, Llanddewi Brefi, efo’r llywydd eleni Alison Harvey yn y Gadair.  Yr oedd nifer helaeth wedi crynhoi yn y neuadd i’r cyfarfod efo trafodaeth ddwys.  Yr Is-lywydd eleni yw Sioned Green.  Y Cadeirydd am y flwyddyn yw Rebeca James ar Is-gadeirdd Rhian Griffiths.  Bu swydd yr Ysgrifennydd eleni yn cael ei lenwi efo Bleddyn Holgate, a’r Ysgrifennydd Cofnodion yw Teleri Griffiths.  Mae’r swydd Ysgrifennydd Rhaglen yn cael ei dal efo’r Arweinyddion.  Blwyddyn yma Daniel Evans yw’r Trysorydd efo Sam Jenkins yn Is-drysorydd.  Y Swyddog Cyfathrebu/Gohebydd y Wasg yw Mari Edwards.  Ela Pugh a Mabli Dark fydd yn cwblhau’r Llyfr Lloffion am y flwyddyn.  Ar ôl y cyfarfod mi aeth pawb lawr i’r New Inn er mwyn dathlu llwyddiant y Clwb yn ystod y flwyddyn.

Ym mis Awst fuodd aelodau’r Clwb yn brysur yn paratoi a chynrychioli’r Clwb ar fflôt yng ngharnifal tref Tregaron a phentref Llanddewi Brefi.  Roedd nifer o fflôtiau yn cymryd rhan a llawer o fwrlwm yn y cae.

Mi gafodd Treialon Cŵn Defaid Cenedlaethol Cymru ei gynnal ar Fferm Dolyrychain, Tregaron ym mis Awst.  Yn ystod y treialon mi gafodd Andrew Davies o’r Clwb ei ddewis i gynrychioli Cymru yn Nhreialon Cŵn Defaid Rhyngwladol – Triniwr Ifanc.  Pob lwc i Andrew yn yr Alban ym mis Medi.

Mi fydd y Clwb yn ail ddechrau ym mis Medi efo noson “social”.  Croeso i bawb ymuno efo ni – aelodau hen a newydd!

Dweud eich dweud