Clecs Caron – Ian Tillotson

Cyfweliad misol yn busnesa i fywyd person o Fro Caron. Y mis ’ma, Ian Tillotson.

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies
Author

I ddarllen y cyfweliad yn llawn, prynwch rifyn nesaf o bapur bro’r Barcud.

Enw: Ian Tillotson

Cartref: TŶ Coed

Teulu: Gwraig a 2 ferch + 5 ŵyr/wyres

Gwaith: Wedi ymddeol – Cyn Prif warden CCW yng Nghymru yn goruchwylio gwarchodfeydd natur.

Beth yw dy gysylltiad â Bro Caron?
Wedi byw yma ers 1976. Wedi magu dwy ferch a aeth i ysgol gynradd Tregaron. Cadeirydd clwb cerdded Tregaron, Ffair Garon a Whilen y Porthmyn gynt, yn gwirfoddoli ar Gors Caron i CNC ac wedi astudio gwyfyn prin y Rosie Marsh Moth. Nes i ddarganfod y gwyfyn yn 1976 yn byw ar Gors Caron a dwi wedi astudio yma a thramor ers hynna (hefyd ar Gors Fochno).

Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Dadansoddol, geiriol, ymroddedig.

Unrhyw hoff atgof plentyndod.
Armistice day 1945! (5 oed) yng nghastell Caeredin yn eistedd ar Mons Meg.

Beth oedd swydd dy freuddwydion pan yn blentyn?
Gweithio yn yr awyr agored.

Y peth pwysicaf a ddysgest yn blentyn.
Gwerth a budd gonestrwydd.

Taset ti’n gallu mynd nôl mewn amser, beth fyddet ti’n dweud wrth dy hun yn 16 oed?
Bydda ychydig yn fwy pendant.

Ble mae dy hoff le yn y byd i gyd? Pam?
Gogledd Yorkshire – Hiraeth, plentyndod.

Pwy yw dy arwyr?
Max Nicholson – Gwleidydd a chreawdwr y Nature Conservancy yn 1949.

Y peth gorau am yr ardal hon?
Y tiroedd gwyllt.

Y peth gwaethaf am yr ardal hon?
Y Tywydd, ambell waith.

Beth yw dy ddiddordebau?
Astudio’r gwyfyn, gwylio adar, bywyd gwyllt, ysgrifennu, entomology.

Beth sy’n mynd ar dy nerfau?
Gwleidyddiaeth.

Beth sy’n codi ofn arnat?
Dirywiad trefn y byd.

Wyt ti’n difaru rhywbeth?
Fy mod heb cael y cyfle i sefyll ar bob copa uchaf ym mhob gwlad yn Ewrop.

Yr eiliad a newidiodd dy fywyd?
Y diwrnod cefais fy ngalw lan am ‘National Service.’

Beth yw dy hoff air?

Diolch.

Disgrifia dy benwythnos delfrydol.
Gwylio adar gydag eraill yn yr haul.

Dy wyliau gorau?
Dringo Killimanjaro yn 1999.

Beth sy’n dy wneud di’n unigryw?
Y Rosie marsh moth.

Dere ag un ffaith ddiddorol amdanat ti.
Rwyf wedi nofio gyda Siarc Morfil (Whale Shark)

Naill ai neu:

  1. Te neu goffi? Coffi
  2. Cerddoriaeth neu deledu? Cerdd
  3. Tywod neu eira? Tywod
  4. Ci neu gath? Ci
  5. Ffonio neu ebostio? Ebost
  6. Brecwast neu ginio? cinio
  7. Canu neu ddawnsio? Canu
  8. Bacwn neu sosej? Bacwn
  9. Slipers neu sanau? Sanau
  10. Awyren neu drên? Trên

Dweud eich dweud