Clecs Caron – Caradoc Jones

Cyfweliad misol yn busnesa i fywyd person o Fro Caron. Y mis ’ma, Caradoc Jones.

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies
P1130098-2

I ddarllen y cyfweliad yn llawn, prynwch rifyn nesaf o bapur bro’r Barcud.

Enw: Caradoc Jones

Cartref: Helsby, ochor draw Chester.

Teulu: Siân y wraig, ac Eleanor 23, Owen 20.

Gwaith: Amrywiol! Diweddar fel Arolygwr Pysgodfeydd yn y môr Indiaidd.

Beth yw dy gysylltiad â Bro Caron?

Cefais fy ngeni a fy magi yn Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid a mynychu ysgol yn y Bont a Thregaron.

Unrhyw hoff atgof plentyndod.

Creu argae i geisio boddi moch Mr Gutteridge, ein cymydog!

Y peth pwysicaf a ddysgest yn blentyn.

I barchu pawb gan fod pob unigolyn yn ddiddorol.

Taset ti’n gallu mynd nôl mewn amser, beth fyddet ti’n dweud wrth dy hun yn 16 oed.

Paid a becso am ddim.

Ble mae dy hoff le yn y byd i gyd? Pam?

Ceunant y Camddwr ger Abergwrach. Y lle cyntaf aruthrol, hudol, na’th danio fy nychymyg. Mae’r holl le wedi boddi nawr o dan Llyn Briane.

Pwy yw dy arwyr?

Brynmor Hughes, Alltddu, chwaraewr rygbi gorau Tregaron – roeddwn yn edmygu fel crwt ifanc. George Monbiot, i ddweud y gwir.

Y peth gorau am yr ardal hon?

Mae’r diriogaeth yn rhan o fy enaid.

Y peth gwaethaf am yr ardal hon?

Y gofid y bydd Y Llew Coch yn cau.

Beth yw dy ddiddordebau?

Dringo creigiau, mynydda, darllen hanes, gwella’r Sbaeneg, crwydro’r we.

Beth sy’n codi ofn arnat?

Gwlychu mewn oerfel ar fynydd mawr heb gysgod.

Pryd llefaist ti ddiwethaf?

Gadael y teulu eto am bedwar mis o waith tramor.

Pryd es ti’n grac ddiwethaf?

Pob tro fi’n gweld y Daily Mail yn arllwys gwenwyn  mewn i gymdeithas.

Beth wyt ti’n fwyaf balch ohono?

Llwyddo i arwain Pata de Hombre (6c),  dringfa galed yn Sbaen yr wythnos hon.

Wyt ti’n difaru rhywbeth?

Creu dolur i rai yn ystod bywyd.

Yr eiliad a newidiodd dy fywyd?

Sylweddoli taw nawr yw’r amser i fanteisio ar sefyllfa.

Pwy yw’r person enwocaf ar dy ffôn symudol?

Geraint Lewis, Geraint Morgan, Geraint Lloyd

Beth yw dy hoff bryd o fwyd?

Chips cartre’, pysgod a salad.

Disgrifia dy benwythnos delfrydol.

Plant adref, antur deuluol, cefn gwlad.

Dy wyliau gorau?

Dringo Mt Everest.

Beth fyddet ti’n argymell i ni ei wylio/ei ddarllen?

‘The Discoverers’ gan Daniel J Boorstin.

Beth sy’n dy wneud di’n unigryw?

Falle’r hooker olaf sy’n fyw a oedd yn gallu cystadlu am bêl yn syth mewn scrum!

Dere ag un ffaith ddiddorol amdanat ti.

Ambell i waith, rwyf yn nofio mewn i ynysoedd i achub ffoaduriaid.

Beth yw/oedd dy uchelgais mewn bywyd?

I ddal i ddringo mor galed ag sy’n bosib.

Naill ai neu: 

  1. Rygbi neu bêl-droed? Rygbi.
  2. Y traeth neu’r mynyddoedd? Lle mae’r ddau yn cwrdd.
  3. Nadolig neu ben-blwydd? Nadolig.
  4. Ffilm neu nofel? Ffilm.
  5. Creision neu siocled? Siocled.
  6. Bara gwyn neu frown? Brown.
  7. Tywydd oer neu dwym? Oer.
  8. Codi’n gynnar neu aros lan yn hwyr? Y syniad o godi’n gynnar.
  9. Starter neu bwdin? Dibynnu os odi’r car yn pallu dechre, eto.
  10. Ci neu gath? Cath.
  11. Tu fewn neu tu fas? Tu fas.

Dweud eich dweud