Mae caban enwog y Clwb Rygbi ar gael am ddim.
Mae’r Clwb yn dathlu hanner can mlynedd eleni, ac mae cynlluniau i newid y caban am estyniad pwrpasol i’r Clwb.
Mae’r caban wedi rhoi gwasanaeth arbennig i’r Clwb ers deg mlynedd ar hugain, ac wedi cynnal nifer o wahanol ddigwyddiadau.
Mae Geraint Morgan wedi bod yn ffigwr amlwg yn y Clwb ers blynyddoedd ac yn cofio nifer o ddigwyddiadau amlwg.
“Ar ôl i’r Clwb gymryd Tafarn Twm Siôn Cati fel ein cartref, yr oedd yn amlwg nad oedd yr adeilad yn ddigon o faint ar gyfer achlysuron arbennig,” meddai Geraint. “Roedd y clwb yn llogi pabell i greu mwy o le i wneud yn siŵr fod pawb yn mwynhau. Yn un o’r ciniawe enwog yn y babell, y diweddar Ray Gravell ac erbyn hyn y diweddar Dewi Pws Morris, oedd y gwŷr gwadd. Agoriad Dewi Pws oedd fod pawb yn Aberystwyth yn galw bechgyn Tregaron yn ‘Cowbois’ ond roedd ef yn gwybod taw ‘Indians’ oedden nhw gan eu bod yn cynnal eu cinio mewn pabell”
“Penderfynwyd fod angen adeilad parhaol ac fe godwyd yr arian wrth i ysgrifennydd yr aelodaeth, Jim ‘Bach’ Williams fynd ati i werthu aelodaeth oes i nifer fawr o bobl. Deg mlynedd oedd oes y caban i fod, ond chwarae teg, mae wedi gweld nifer fawr o nosweithiau bythgofiadwy dros y ddeng mlynedd ar hugain olaf. Mae ’na siaradwyr byd enwog yn y byd rygbi wedi siarad yn y lle. Pwy all anghofio nosweithiau yng nghwmni Eddie Butler, Clive Rowlands a Roy Noble. Yr unig ferch sydd wedi annerch y cinio yw Eleri Sion, a chwarae teg iddi, roedd yr ystafell gyfan o ddeng bachgen a thrigain yn bwyta o’i dwylo.
Mae gan bawb ei ffefryn o siaradwr a noswaith – cwmni a Chymraeg naturiol Wyn Gruffudd, straeon Dafydd Jones neu hanesion anhygoel Garin Jenkins. I nifer o’r Tregaronians go iawn, efallai presenoldeb a hanes anhygoel Caradog Jones ( y Cymro cyntaf i gyrraedd copa Mynydd Everest) yw uchafbwynt y caban!” ychwanegodd Geraint
Os oes diddordeb gennych yn y caban, cysylltwch gyda Jason Hockenhull.