Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
Mae’r cast, o dan arweiniad Gerald Morgan, yn ymarfer munud olaf cyn y perfformiadau heno a nos yfory.
Bydd ‘Bethlehem,’ sy’n berfformiad cymunedol gan y fro, yn digwydd heno am 6.30 ym Mwlchgwynt a phrynhawn yfory am 2 o’r gloch yn Neuadd y Dref.
Mae amrywiaeth o gymunedau a mudiadau ynghlwm â’r perfformiad hwn a sawl perfformiwr yn actio am y tro cyntaf ers blynyddoedd. Mae’n sbin modern ar Ddrama’r Geni sydd wedi uno cymuned Bro Caron.
Mae’r ymarferion wedi bod yn cymryd lle ers wythnosau bellach, felly dewch i ddathlu a chefnogi’r cast a chofio gwir ystyr y Nadolig.