Banc Bwyd Llambed ac Uned Strôc Ward Ystwyth

Gofalaeth Caron

gan Eirwen James

Yn ystod y flwyddyn mae Capeli Gofalaeth Caron yn cynnal pedwar gwasanaeth ar y cyd ynghyd â gweithgaredd arbennig fel y Noson Baned a Phancos. Mae’r casgliad yn cael ei gyfrannu at achosion da wedi eu cytuno o flaen llaw. Dewis elusennau’r flwyddyn a aeth heibio fu’r Banc Bwyd a’r Uned Strôc yn Ysbyty Bronglais.
Cefnogir ein hymgyrch gan Ymddiriedolaeth Blakemore, Spar Tregaron. Diolch arbennig i aelodau Gofalaeth Caron a  ffrindiau am eu haelioni.

Cyflwynwyd £807. 30 yn gyfartal rhwng y ddwy elusen.

Dweud eich dweud