Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
Cefn llwyfan cyn canu
Ar y llwyfan
Merched Soar yn joio dathlu.
Tlws Selwyn a Neli Jones
Ar ôl wythnosau o ymarfer, daeth Merched Soar yn gyntaf yng nghystadleuaeth Parti Alaw Werin yn yr Ŵyl Gerdd Dant yng Nghaerdydd heddiw.
Y dasg oedd canu’r darn gosod, Awn y Fethle’m a darn cyferbyniol. Ein darn cyferbyniol oedd Y Deryn Du.
Braint oedd cael derbyn tlws sydd yn anrhydeddu dau o garedigion cerddoriaeth ein bro ni, sef Selwyn a Neli Jones.
Diolch i Carys Mai am ein hyfforddi a’n harwain.