Sion ‘Darts’ yn rhan o dîm Cymru eto!

Hedd sy’n holi Sion am y dartiau.

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies

Bydd Sion ‘Darts’ (Sion Lewis Davies) yn cynrychioli Cymru mewn pencampwriaeth dartiau eleni eto. Mae wedi ei ddewis i deithio i Gibraltar i fod yn rhan o dîm o 4 a fydd yn cynrychioli Cymru yng Nghwpan Byd y JDC.

Tipyn o gamp i fachgen blwyddyn 9!

Bydd yn teithio yno’r penwythnos yma. Pob hwyl i ti Sion!

Dyma Hedd, ei ffrind, yn cyfweld ag ef am y gystadleuaeth.