Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
Llanddewi Brefi
Llanddewi Brefi
Tregaron
Tregaron
Tregaron
Cafwyd sioe ysblennydd neithiwr yn yr awyr ym Mro Caron a thu hwnt wrth i fellt llachar saethu a goleuo’r awyr am gyfnod hir iawn.
Mae’r fideos a’r lluniau yma wedi’u tynnu gan drigolion Tregaron a Llanddewi Brefi a oedd allan ar y strydoedd a’r hewlydd yn mwynhau’r olygfa ryfedd.
Dywedodd un ddynes nad oedd hi erioed wedi gweld dim byd o’r fath.
Doedd dim un sŵn i’w glywed o gwbwl sy’n anarferol iawn.
Ym mhle arall oedd y mellt i’w gweld?