Sain Ffagan

Gwibdaith Cymdeithas Hanes Tregaron a’r Cylch

gan Cyril Evans
IMG_20230630_114405

Y fforest o delynnau

dav

Rhai o’r sampleri yn y casgliad

IMG_20230630_120257

Elen Phillips yn ein tywys ac yn esbonio am rhai o’r eitemau

IMG_20230630_114633

Cadair Eisteddfod Gadeiriol Tregaron 1876 – ac roedd hi weld yn un esmwyth iawn hefyd

IMG_20230630_130415

Carreg o Eglwys Sant Caron, Tregaron c.800 OC

IMG_20230630_151445

Cloc o drychineb Aberfan sy’n coffhau’r union funud claddwyd yr ysgol

IMG_20230630_145825

Un o beddfeini Abaty Ystrad Fflur c1200 – 1240 OC

sdr

Troell yn y storfa

Ar ddydd Gwener 31 o Fehefin teithiodd aelodau a ffrindiau o Gymdeithas Hanes Tregaron a’r Cylch ar ei gwibdaith flynyddol, ac eleni penderfynwyd mynd i Sain Ffagan.

Croesawyd y Gymdeithas gan Elen Phillips, Prif Curadur Hanes Cyfoes a Chymunedol Sain Ffagan, ac wedi ei chyflwyniad am hanes y Sefydliad yn y ddarlithfa, cawsom daith tywys o’r storfeydd.  Roedd Elen wedi paratoi arddangosfa fychain o greiriau o’r casgliad sy’n ymwneud y benodol ag ardal Tregaron ar ein cyfer, cyn iddi ein harwain o gwmpas y storfeydd. Syfrdanwyd pawb gan y cyfoeth aruthrol sy’n cael eu diogelu ganddynt, a heb amheuaeth roedd gwybodaeth helaeth Elen am y casgliadau a’r eitemau wedi ychwanegu’n fawr at fwynhad yr ymweliad.

Cafwyd cyfle wedyn i ni grwydro’r safle ei hunan sydd wedi newid cymaint dros y blynyddoedd diwethaf gydag ychwanegiadau o adeiladau o bob cwr o Gymru.  Gwelwyd gweithdy coed Tyn-Rhos o Landdewi Brefi, ac yn yr hen efail gof mae’r offer sy’n cael eu defnyddio wedi’i gasglu o hen Efail Llanio, Llanddewi Brefi. Roedd yr orielau newydd yn werth eu gweld ac wedi’i gosod mewn ffordd chwaethus a diddorol iawn gyda gwybodaeth helaeth am bob eitem. Wrth grwydro o’u cwmpas, ac o gwmpas canolfan newydd Y Gweithdy, gwelwyd sawl enghraifft o greiriau sy’n ymwneud a’r ardal hon – croes carreg o Eglwys Sant Caron c.800 OC;  teils o lawr Abaty Ystrad Fflur c.1340;  beddfeini o’r Abaty c.1200-1240 OC:  cwiltiau a llyfr cownt Mari Lewis, Llangeitho, cadair buddugol Eisteddfod Gadeiriol Tregaron 1876, ynghyd ag enghreifftiau o fasgedi gwaith lip Benjamin Evans, Bwlchllan.

Mae safle a chasgliad Sain Ffagan yn le dylwn i gyd ei drysori ac ymfalchïo ynddo.  Eleni mae Sain Ffagan yn dathlu 75 mlynedd ers ei sefydlu, felly diolch i Iorwerth Peate am ei weledigaeth, a phen-blwydd hapus iawn!

Diolch i Elen Phillips a’r staff am eu croeso a’u brwdfrydedd, a diolch arbennig i Emyr Evans am ein gyrru. Hoffwn gydnabod yn ogystal Cyngor Tref Tregaron am ei gyfraniad ariannol tuag at y daith.  Cafwyd gwibdaith i’w gofio ac un a fydd yn aros yn y cof am flynyddoedd.

Dyma oedd digwyddiad olaf Cymdeithas Hanes Tregaron a’r Cylch am y tymor presennol, ac fe fydd y tymor newydd yn dechrau ym mis Medi.  Diolch i bawb am eu cefnogaeth, ac edrychwn ymlaen at arlwy tymor 2023-24.  Am wybodaeth bellach ebostiwch Margaret Jones ar mig@59@btinternet.com