Ar ddydd Gwener 31 o Fehefin teithiodd aelodau a ffrindiau o Gymdeithas Hanes Tregaron a’r Cylch ar ei gwibdaith flynyddol, ac eleni penderfynwyd mynd i Sain Ffagan.
Croesawyd y Gymdeithas gan Elen Phillips, Prif Curadur Hanes Cyfoes a Chymunedol Sain Ffagan, ac wedi ei chyflwyniad am hanes y Sefydliad yn y ddarlithfa, cawsom daith tywys o’r storfeydd. Roedd Elen wedi paratoi arddangosfa fychain o greiriau o’r casgliad sy’n ymwneud y benodol ag ardal Tregaron ar ein cyfer, cyn iddi ein harwain o gwmpas y storfeydd. Syfrdanwyd pawb gan y cyfoeth aruthrol sy’n cael eu diogelu ganddynt, a heb amheuaeth roedd gwybodaeth helaeth Elen am y casgliadau a’r eitemau wedi ychwanegu’n fawr at fwynhad yr ymweliad.
Cafwyd cyfle wedyn i ni grwydro’r safle ei hunan sydd wedi newid cymaint dros y blynyddoedd diwethaf gydag ychwanegiadau o adeiladau o bob cwr o Gymru. Gwelwyd gweithdy coed Tyn-Rhos o Landdewi Brefi, ac yn yr hen efail gof mae’r offer sy’n cael eu defnyddio wedi’i gasglu o hen Efail Llanio, Llanddewi Brefi. Roedd yr orielau newydd yn werth eu gweld ac wedi’i gosod mewn ffordd chwaethus a diddorol iawn gyda gwybodaeth helaeth am bob eitem. Wrth grwydro o’u cwmpas, ac o gwmpas canolfan newydd Y Gweithdy, gwelwyd sawl enghraifft o greiriau sy’n ymwneud a’r ardal hon – croes carreg o Eglwys Sant Caron c.800 OC; teils o lawr Abaty Ystrad Fflur c.1340; beddfeini o’r Abaty c.1200-1240 OC: cwiltiau a llyfr cownt Mari Lewis, Llangeitho, cadair buddugol Eisteddfod Gadeiriol Tregaron 1876, ynghyd ag enghreifftiau o fasgedi gwaith lip Benjamin Evans, Bwlchllan.
Mae safle a chasgliad Sain Ffagan yn le dylwn i gyd ei drysori ac ymfalchïo ynddo. Eleni mae Sain Ffagan yn dathlu 75 mlynedd ers ei sefydlu, felly diolch i Iorwerth Peate am ei weledigaeth, a phen-blwydd hapus iawn!
Diolch i Elen Phillips a’r staff am eu croeso a’u brwdfrydedd, a diolch arbennig i Emyr Evans am ein gyrru. Hoffwn gydnabod yn ogystal Cyngor Tref Tregaron am ei gyfraniad ariannol tuag at y daith. Cafwyd gwibdaith i’w gofio ac un a fydd yn aros yn y cof am flynyddoedd.
Dyma oedd digwyddiad olaf Cymdeithas Hanes Tregaron a’r Cylch am y tymor presennol, ac fe fydd y tymor newydd yn dechrau ym mis Medi. Diolch i bawb am eu cefnogaeth, ac edrychwn ymlaen at arlwy tymor 2023-24. Am wybodaeth bellach ebostiwch Margaret Jones ar mig@59@btinternet.com