Papur Bro Y Barcud

Rhifyn mis Mawrth allan yn eich siopau

gan Efan Williams
1

Mae rhifyn mis Mawrth papur bro Y Barcud allan yn eich siopau lleol erbyn hyn. Edrychwn ymlaen at y rhifyn newydd yn eiddgar. Golygwyd rhifyn mis Ionawr gan John a Tegwen Meredith, Tŷnewydd, Blaenpennal a cheir sylw ar y dudalen flaen i golled Dai Lloyd Evans a’r sioe ardderchog o Aurora Borealis a welwyd uwchben Tregaron yn ddiweddar ynghyd â thrip plant Ysgol Rhoshelyg i Langrannog a thaith sgïo Ysgol Henry Richard.

Ceir hanes llwyddiant Cylch Meithrin Pontrhydfendigaid a gafodd ymweliad diweddar gan Estyn, adroddiad ar blygain cyntaf Lledrod, teyrnged i Dai Lloyd Evans gan Beti Griffiths, hanes Côr Clychau’r Fedwen a datgorffori Capel Llwynpiod.

Ewch allan i hawlio eich copi a chefnogi ein papur bro. Dyma’r lleoliadau;

Aeron Booksellers, Aberaeron

Siop Glanarthen, Cross Inn

Siop y Smotyn Du, Llambed

Garej Jenkins, Tregaron

D.I. Davies, (Cigydd) Tregaron

Siop Brefi, Llanddewi Brefi

Siop Llangeitho

‘Rhen Ysgol, Bwlchllan

Llwyn Onn ac Ardwyn, Bronant

Anrhegaron, Tregaron

Siop Nwyddau Caron Stores, Tregaron

Siop y Bont, Pontrhydfendigaid

Llys yr Awel, Swyddffynnon

Wyre View, Lledrod (honesty box)

Siop Llanilar

Siop Blaenplwyf

Siop Inc, Aberystwyth

Siop y Pethe, Aberystwyth