Mae rhifyn mis Ionawr papur bro Y Barcud allan yn eich siopau lleol erbyn hyn. Edrychwn ymlaen at y flwyddyn newydd yn eiddgar. Golygwyd rhifyn mis Ionawr gan Efan Williams, Wyre View, Lledrod a cheir sylw ar y dudalen flaen i ddathliadau Nadolig yn ein bro, ynghyd â phlant ein hysgolion yn cefnogi ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd yn Qatar.
Ceir hanes cerdd D. Ben Rees, Cymru a Gwlad y Gân, digwyddiadau Nadolig ein hysgolion lleol, colofn fisol Dafydd Owen, hanes byd y campau heb sôn am newyddion o bob pentref yn ardal Y Barcud.
Hir y parhaed ein cysylltiad agos rhwng papur bro Y Barcud a Caron360 a diolchwn am gael cyhoeddi Clecs Caron yn fisol – diolch am rannu! Carem fel pwyllgor Y Barcud ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i holl ddarllenwyr Caron360. Ewch allan i hawlio eich copi a chefnogi ein papur bro. Dyma’r lleoliadau;
Aeron Booksellers, Aberaeron
Siop Glanarthen, Cross Inn
Siop y Smotyn Du, Llambed
Garej Jenkins, Tregaron
D.I. Davies, (Cigydd) Tregaron
Siop Brefi, Llanddewi Brefi
Siop Llangeitho
‘Rhen Ysgol, Bwlchllan
Llwyn Onn ac Ardwyn, Bronant
Anrhegaron, Tregaron
Siop Nwyddau Caron Stores, Tregaron
Siop y Bont, Pontrhydfendigaid
Llys yr Awel, Swyddffynnon
Wyre View, Lledrod (honesty box)
Siop Llanilar
Siop Blaenplwyf
Siop Inc, Aberystwyth
Siop y Pethe, Aberystwyth