Noson yng nghwmni Iona Davies ‘Blodela’

Merhed y Wawr Tregaron

Delyth Rees
gan Delyth Rees
IMG-20231206-WA0012

MERCHED Y WAWR

Nos Fercher, 6 Rhagfyr estynnwyd croeso i’r aelodau gan Manon Wyn James y Llywydd.  Trafodwyd rhai materion cyn mynd ymlaen i  groesawu a chyflwyno Iona Davies y wraig wadd.  Mae’n arbenigo ym myd y blodau ac wedi sefydlu busnes Blodela o’i chartref ers blynyddoedd.  Mae’n gefnogol iawn i’r ysgol ac i’r Clwb Ffermwyr Ifanc lleol ac mae ei merched yn dilyn ôl ei throed ac yn ennill gwobrau am eu gwaith arbennig.

Gyda’r Nadolig wrth y drws beth yn well na chael dysgu sut oedd creu  addurn i’w roi ar y bwrdd.  Wedi ei gwylio’n ofalus cawsom gyfle i fynd ati i greu addurniadau ein hunain!  Roedd  y byrddau yn llawn o gelyn a gwyrddni, gydag arogl hyfryd o goed pinwydd yn llenwi’r neuadd.   Cafwyd llawer iawn o hwyl ac roedd pawb yn falch iawn o’u trefniadau gorffenedig ar y diwedd!  Talwyd y diolchiadau gan Lisa Jones gan ddiolch i Iona am noson ddifyr a diddorol ac am ymuno gyda ni yng nghanol ei phrysurdeb. Pencampwraig ym myd y blodau yng ngwir ystyr y gair.

Diolchwyd hefyd i Rhian Jones a’i thîm o Flaencaron, Maesyrawel a Brynheulog am baratoi paned o de a mins peis i ddiweddu’r noson.  Enillwyd y wobr raffl gan Ffion Medi Lewis-Hughes a dymunwyd Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.

Nos Fercher 3 Ionawr edrychir ymlaen at groesawu  Anwen Butten, Rheolwraig Tȉm Bowlio Cymru i’n plith.