
Merched y coffi.

John Meredith, Tom Lewis Jones y Llywydd a Bethan Hopkins-Williams.






Meleri a Megan o GFFI Llangeitho.




Harri Evans wrth y piano.

Mari Williams o GFFI Tregaron yn cyflwyno alaw werin.

Harri Evans o GFFI Tregaron yn canu gyda Neli wrth y piano.

John Meredith y cadeirydd, a Tom Lewis Jones y llywydd gyda’r criw a fu’n rhoi adloniant.
Cynhaliwyd noson goffi flynyddol Papur Bro’r Barcud neithiwr am y tro cyntaf ers cyn y pandemig. Daeth llond neuadd i Dregaron i gael paned (coffi llaeth!), clonc a chymdeithasau unwaith eto.
Cafwyd stondin gacennau amrywiol, raffl, adloniant, llywydd a phopeth sydd gan noson draddodiadol o’r fath i’w chynnig!
Llywydd y noson oedd Mr Tom Lewis Jones a chafodd ei gyflwyno gan John Meredith fel, “un o fechgyn y Bont.” Gŵr sydd wedi symud o’r ardal, bellach yn byw yn Llandybie, ond yn dal i ymfalchïo yn ei wreiddiau a’i fro.
Trafododd bwysigrwydd Papur Bro fel Papur Bro Y Barcud mewn ardaloedd fel Bro Caron, sy’n “hedfan o gwmpas yr ardal ers 1976” a dymunodd yn dda i’r papur i’r dyfodol.
Efan Williams oedd arweinydd y noson, a chafwyd eitemau ysgafn, amrywiol gan GFfI Tregaron, CFfI Llangeitho a gan Efan ei hunan.
Noson hwylus iawn a diolch yn fawr i’r trefnwyr.