Braf cyhoeddi fod Eisteddfod Gadeiriol Tregaron yn ôl, ac yn ail gychwyn ers cyfnod y clo. Llynedd wrth gwrs fe’i gohiriwyd ymhellach pan gynhaliwyd eisteddfod ‘fach’ arall yn yr ardal – rwy’n credu i chi glywed amdani!
Cynhelir Eisteddfod Gadeiriol Tregaron eleni ar nos Wener a dydd Sadwrn 8fed a 9fed o Fedi yn y Neuadd Goffa.
Cynhelir y cystadlaethau cyfyngedig i blant iau Ysgol Henry Richard ar y nos Wener, i ddechrau am 6.30pm. Y beirniaid yw Dafydd Jones, Ciliau Aeron (Gwnnws gynt) canu; Sara Down-Roberts, Aberystwyth (Llangeitho gynt) adrodd / llefaru / llen, a Huw Williams (Silian) arlunio.
Y diwrnod canlynol cynhelir y cystadlaethau agored, i ddechrau am 12.00pm. Y beirniaid yw Iwan Teifion Davies, Caerfyrddin (canu); Daf Wyn Rees, Caerdydd + S4C (adrodd) ac Rocet Arwel Jones, Aberystwyth (llenyddiaeth), wynebau cyfarwydd iawn i ni gyd ar lwyfannau, y cyfryngau a theledu.
Mae’r testunau llenyddol eisoes i’w gweld ar wefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, a dyddiad cau y ceisiadau llenyddol yw dydd Mercher 16eg o Awst. Dim llawer o amser felly i’r beirdd yn eich plith. Hefyd ceir copïau o’r rhaglen lawn ar y wefan https://steddfota.cymru/wp/ a hefyd mae copïau o’r rhaglen eisoes wedi’i dosbarthu yn y siopau lleol. Am wybodaeth bellach am yr eisteddfod a’r cystadlaethau, cofiwch fynnu gopi o’r rhaglen.
Llywydd yr Eisteddfod eleni yw Irfon Bennett, Treganna, Caerdydd – sydd a’i wreiddiau yn ddwfn yn Nhregaron. Edrychwn ymlaen i’w groesawu nôl i’n plith.
Edrychwn ymlaen yn eiddgar at eich cwmni eleni, ac fe fydd yn dda i weld wynebau cyfarwydd a newydd ymysg y gynulleidfa, ac i weld y perfformwyr unwaith eto yn troedio’r llwyfan.