Naws Nadolig Ysgol Rhos Helyg

Digwyddiadau Nadoligaidd Ysgol Rhos Helyg

gan Efan Williams

Pwy sy’n dŵad dros y bryn,
yn ddistaw, ddistaw bach?
Ei farf yn llais, a’i wallt yn wyn,
â rhywbeth yn ei sach.
A phwy sy’n eistedd ar y to,
ar bwys y simdde fawr?
Siôn Corn, Siôn Corn. Helo, helo.
Tyrd yma, tyrd i lawr

Mae plant ysgol Gynradd Rhos Helyg yn barod! Mae naws y Nadolig wirioneddol wedi cyrraedd ein bro yn ystod yr wythnos hon ac mae’r cyffro yn amlwg!

Ar brynhawn dydd Gwener y 1af o Ragfyr, daeth criw da o rieni a ffrindiau ynghyd ar gampws Llangeitho i oleuo’r goeden Nadolig yn yr ysgol. Daeth pawb i mewn i’r ysgol i fwynhau llymaid o win twym a mins peis ac wedyn daeth pawb allan i’r iard i fwynhau perfformiad byr gan y plant cyn cyfrif i lawr o ddeg a goleuo’r goeden Nadolig. Diolch o galon i Gyfeillion yr ysgol am drefnu’r goeden.

Yna ar brynhawn dydd Sul y 3ydd o Ragfyr daeth tro plant safle Rhos y Wlad i fwynhau’r bwrlwm. Daeth llond lle ynghyd yn Eglwys San Mihangel, Lledrod am wasanaeth Nadolig ac i fwynhau perfformiadau gan blant safle Rhos y Wlad, yna cerddodd pawb i lawr i bentref Lledrod i ganu carolau, mwynhau gwin twym a mins peis wedi eu gweini gan aelodau clwb CFFI Lledrod. Yna cafwyd perfformiad gan Barti Camddwr, cyn i’r plant gael cyfle i berfformio gyda’r parti. Yna cyfrodd y dyrfa sylweddol i lawr o ddeg a goleuwyd coeden y pentref, yn barod i oleuo’r ffordd drwy fisoedd oer y gaeaf.

Yna ar brynhawn dydd Llun y 4ydd o Ragfyr cawsom gyfle i oleuo coeden Nadolig safle Rhos y Wlad. Daeth tyrfa dda o rieni a chefnogwyr ynghyd ar iard yr ysgol, cafwyd perfformiad byr gan y plant, a goleuwyd y goeden, cyn mwynhau siocled poeth ar brynhawn digon oer. Diolch o galon i Mr John Meredith, Tŷ Newydd Blaenpennal, am roi’r goeden i’r ysgol.

Cofiwch am Wasanaeth Cristingl Ysgol Rhos Helyg, fydd yn cael ei gynnal nos Fercher y 6ed o Ragfyr am 6.30 yn Eglwys St Ceitho, Llangeitho. Dewch yn llu!

Nadolig llawen i chi gyd,

I deulu mawr y byd!