Nadolig Llawen

Gofalaeth Caron

gan Eirwen James

Ar fore Dydd Sul, Rhagfyr 10fed roedd pob heol yn arwain at Gapel Bethesda, Llanddewi Brefi, ar gyfer gwasanaeth y Nadolig.

Roedd aelodau o bob oedran ac o bob un o gapeli’r Ofalaeth yn cymryd y rhannau arweiniol.

Ychwanegwyd at naws y gwasanaeth gan y delweddau ar y sgrîn fawr. Roedd y Carolau yn clymu Neges y Nadolig o’r rhagfynegi yn yr Hen Destament i Newyddion Da y Testament Newydd. Ychwanegwyd at safon y canu wrth i’r geiriau ymddangos ar y sgrîn.

Cyflwynodd ein Gweinidog, y Parch Carwyn Arthur, neges yn atgoffa pawb fod angen sicrhau lle i Iesu Grist yn ein dathlu ac nad yw’r Ŵyl yn gyflawn hebddo.

Casglwyd tuag at yr Uned Strôc a’r Banc Bwyd lleol, ein helusennau am eleni. Daeth y gwasanaeth i ben gyda phaned a mins pei. Hyfryd oedd cyd-addoli gyda llond festri o gyd aelodau a’r stafell wedi ei haddurno mor bert gydag addurniadau a choeden Nadolig. Mwynhewch yr Ŵyl.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi bob un