Merched y Wawr Tregaron

Noson yng nghwmni Joyce y Ffisiotherapydd

Delyth Rees
gan Delyth Rees

Nos Fercher, 1 Tachwedd croesawyd yr aelodau i’r Neuadd Goffa gan Manon Wyn James y Llywydd. Trafodwyd rhai materion a dymunwyd yn dda i Delyth Rees ar ei hymddeoliad. Dymunodd yn dda hefyd i’r aelodau oedd yn cystadlu yn y Cwis Hwyl Cenedlaethol yn Aberaeron nos Wener.

I ddilyn estynnwyd croeso cynnes i Joyce Simmons y wraig wadd. Merch leol yw Joyce ac yn Ffisiotherapydd yn ôl ei galwedigaeth. Bu’n astudio ym Mryste a bu’n gweithio mewn ysbytai ym Manceinion, ac yng Nghaerdydd cyn dychwelyd i Ledrod yn 2013. Mae’n gweithio yng Nghanolfan Rheidol yn Aberystwyth ac yn ymweld â chleifion yn eu cartrefi. Ers dros flwyddyn mae wedi sefydlu busnes ei hunan yn Nhregaron sef ‘Ffisiotherapydd Bro Caron’.

Cafwyd noson ddiddorol ac addysgiadol iawn yn ei chwmni yn sôn am y gwahanol driniaethau a gynigir yn y clinig. Mae’n arbenigo ar y cyhyrau a’r esgyrn ond yn cyflawni gwahanol driniaethau yn ôl y gofyn gan gynnwys Aciwbigo. Soniodd am y pwysigrwydd a’r manteision a geir wrth i ni wneud ymarfer corff yn rheolaidd i unrhyw oedran er mwyn cryfhau’r cyhyrau a’r esgyrn. Mae’r ymarferion yma yn llesol i iechyd y corff a’r meddwl. Cafwyd cyfle i ofyn cwestiynau a chawsom sawl cyngor sut y gellir lleddfu poen neu unrhyw anhwylder. Ar y diwedd cawsom gyfle i wneud ychydig o ymarfer corff a sylwi cymaint o effaith a wnaed ar y gwahanol gyhyrau!!

Diolchodd Manon i Joyce am roi o’i hamser i ymuno gyda ni ac am rannu ei phrofiadau a’i harbenigedd mewn ffordd mor broffesiynol. Mae’n braf gweld bobl ifanc yn aros yng nghefn gwlad ac rydym yn ffodus i gael clinig fel hyn yn lleol sy’n cynnig asesiadau a thriniaethau arbenigol. Dymunodd yn dda iddi i’r dyfodol.

Paratowyd paned o de a bisgedi gan aelodau Stryd y Capel/Penrodyn a Stryd yr Orsaf. Nos Fercher, 6 Rhagfyr cynhelir noson yng nghwmni Iona Davies ‘Blodela’.