![received_108149018934253](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/15/2023/05/received_108149018934253-640x396.jpeg?3a)
![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/15/2023/05/received_254658353709560-142x88.jpeg?0)
![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/15/2023/05/received_561460652771260-142x88.jpeg?0)
![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/15/2023/05/received_939882683732952-142x88.jpeg?0)
![received_1682232612239337](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/15/2023/05/received_1682232612239337-142x88.jpeg?1p)
![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/15/2023/05/received_946196156695381-1-142x88.jpeg?0)
MERCHED Y WAWR
TREGARON
Nos Fercher, 3ydd o Fai fe gwrddodd yr aelodau ar y Sgwâr Fawr gogyfer â’r Helfa Drysor a drefnwyd gan Eryl a Delyth Rees.
Dechreuwyd o’r sgwâr a mynd am Bontrhydfendigaid yna throi i Swyddffynnon ac yn ôl i Dregaron. Cafwyd tipyn o hwyl yn mynd o amgylch y wlad yn chwilio am y cliwiau amrywiol. Roedd yn noson braf ac roedd yn hyfryd gweld cefn gwlad ar ei orau.
Gorffennwyd yn y Clwb Rygbi ac erbyn hyn roedd pawb yn barod am swper!
Llongyfarchwyd y tîm buddugol gan Catherine Hughes a chyflwynodd wobr i Gwyneth a Iona Davies, Jan Davies a Mags Rees. Diolchwyd i Eryl a Delyth am baratoi’r cwestiynau ac i’r Clwb Rygbi am y croeso a’r swper blasus.
Diolchodd Catherine hefyd i’w chyd swyddogion ac i bawb am eu cefnogaeth dros y flwyddyn ddiwethaf a dymunodd yn dda i Manon Wyn James, Mags Rees ac Yvonne Jones fydd wrth y llyw y tymor nesaf. Yr Is-swyddogion fydd Lisa Jones yn Is-lywydd a Gwyneth Davies yn Is-ysgrifennydd a’r pwyllgor a etholwyd yw Fflur Lawlor, Ann Morgan, Rhian Jones, Margaret Jones, Jan Davies a Ffion Medi Lewis-Hughes.
Penderfynwyd cynnal y trip blynyddol ar ddydd Sadwrn, 10fed o Fehefin.