Stori Dafydd Jones, milwr lleol a laddwyd ym Mametz yn 1916.

Cyhoeddi llyfr gan Ifor ap Glyn, sy’n trafod bywyd Y Capten a’r llythyrau i’w fam.

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies
20230315_121418
IMG_20230314_191156
IMG_20230314_190846

Lansiwyd llyfr newydd Ifor ap Glyn, ‘Anwyl Fam’ neithiwr yn y neuadd yn Llanddewi Brefi. Llyfr swmpus sy’n crynhoi hanes bywyd Dafydd Jones, milwr ifanc o Lanio â laddwyd yng Nghoed Mametz yn 1961. Cadwodd Margaret Jones, ei fam, bob un o’i lythyron hyd ddiwedd ei hoes a dyma oedd sbardun yr ymchwil a’r llyfr.

Wedi darllen y 60 llythyr, sydd nawr yn Y Llyfrgell Genedlaethol, (ynghyd â chardiau post a nifer o eitemau eraill sy’n ymwneud â’r milwr o’n bro) aeth Ifor ap Glyn i ymweld â phob un o’r mannau lle bu Dafydd, gan geisio ail-greu teithiau olaf y milwr ifanc o’r Wern, a deall ei hanes yn well.

“Llythyrau (fel lythyrau Dafydd), heb os, yw’r cofnod llawnaf sydd gennym o brofiad y milwr Cymraeg yn ystod y Rhyfel Mawr.” meddai Ifor ap Glyn yn rhagair y llyfr.

Mae pob llythyr gan Dafydd yn dechrau gyda’r geiriau “Anwyl Fam,” sy’n egluro teitl y llyfr hynod hwn: crynhoad o’i hanes; detholiadau o’r llythyron; lluniau; myfyrdodau Ifor am effaith y Rhyfel ar Gymru.

Neithiwr, derbyniwyd anerchiad ddiddorol a gwybodus gan yr awdur. Trafododd Ifor ap Glyn y broses o ymchwilio, ei ymweliadau, y profiad o ddod i adnabod Dafydd trwy ei lythyron, a’r fraint y derbyniodd o gael ymdrin â stori mor unigryw a gwerthfawr – un sy’n cynrychioli cymaint o fechgyn ifanc a gollodd eu bywydau yn yr un cyfnod.

Dyma ambell glip sain o’r noson i roi blas o’r anerchiad.

Diolchodd Ifor ap Glyn i’r holl deulu, i’r gymuned a’r holl fro am y gefnogaeth ar hyd y daith.

Mae’r stori yn hynod ddiddorol, yn drist wrth reswm, ac yn lleol, yn clymu hanes byd eang y Rhyfel Mawr ag adref.

Stori a hanes pwysig am un o’n bechgyn ni.

Trefnwyd y noson gan Gymdeithas Hanes Tregaron a’r Cylch. Os hoffech ymuno â’r Gymdeithas, mae rhaglen y flwyddyn yn y lluniau. Mae croeso i bawb.