Lisa Bulman yn cynrychioli Cymru

Cap cyntaf i Lisa am saethu colomennod clai.

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies
IMG-20230713-WA0006
IMG-20230713-WA0008
IMG-20230713-WA0007
IMG-20230713-WA0005
IMG-20230713-WA0004

Yn ddiweddar, derbyniodd Lisa Bulman ei chap cyntaf dros Gymru am saethu colomennod clai. Cynrychiolodd ei gwlad yn Adran y Menywod yn Llundain.

Yn ystod y penwythnos, yn rhan o dîm y menywod oedd Lisa, a daethon nhw’n 4ydd dros y Byd!

Roedd Cymru yn un o nifer o wledydd a oedd yn cystadlu, gan gynnwys UDA, Canada, Mecsico, Jamaica, Yr Alban, ond i enwi rhai.

“Roedd yn brofiad anhygoel, ac mi gefais y fraint o gario’r fflag dros Gymru yn y seremoni agoriadol.” meddai Lisa. “Dwi wir yn gobeithio mai hwn fydd fy nghap cyntaf o lawer i ddod yn y dyfodol.”

Dyma fraint aruthrol i ferch 17 oed! Llongyfarchiadau mawr i ti Lisa!